Newyddion S4C

Dyn wedi marw o effeithiau cocên ar ôl cael ei atal gan yr heddlu

ITV Cymru 02/02/2024
Mouayed Bashir

Mae rheithgor wedi dod i'r casgliad bod dyn o Gasnewydd a fu farw ar ôl cael ei atal gan yr heddlu wedi marw o effeithiau cocên “yn dilyn cyfnod o ataliaeth.”

Cafodd yr heddlu eu galw i’r cartref a rannwyd gan Mouayed Bashir gyda’i rieni ar 17 Chwefror, 2021, ar ôl iddyn nhw ddod yn bryderus am ei ymddygiad.

Cafwyd protestiadau yn dilyn marwolaeth Mr Mouayed yn 2021, gyda phrotestwyr yn chwifio arwyddion ‘Cyfiawnder dros Mo’ y tu allan i Orsaf Heddlu ganolog Casnewydd.

Daeth swyddogion o hyd iddo ar noson ei farwolaeth wedi’i gloi ei hun yn ei ystafell ac yn “mynd yn wallgof.”

Pan lwyddodd yr heddlu i gael mynediad i'r ystafell wely daethant o hyd i'r gwely wedi ei dorri, gyda malurion o amgylch yr ystafell a Mr Mouayed ar y llawr yn ei ddillad isaf.

Roedd yn gorwedd gyda'i ben mewn cwpwrdd ac roedd yn ymddangos ei fod yn cicio allan at swyddogion pan ddaethant ato.

Roedd lluniau camera yr heddlu yn dangos swyddogion yn atal Mr Mouayed wrth ei arddyrnau a'i goesau.

Cafodd swyddogion eu clywed yn ceisio ei dawelu wrth aros i ambiwlans gyrraedd.

Dioddefodd y dyn 29 oed ataliad ar y galon yn ddiweddarach ar ôl cael ei roi yn yr ambiwlans, ac er gwaethaf ymdrechion swyddogion heddlu a meddygon yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, nid oedd modd ei adfywio.

Casgliad naratif

Wrth gofnodi casgliad naratif, canfu’r rheithgor fod marwolaeth Mouayed wedi’i hachosi gan “oreffaith cocên... y cyfrannwyd ato gan Aflonyddwch Ymddygiadol Acíwt yn dilyn cyfnod o ataliaeth.”

Dywedodd y rheithgor hefyd: "Rydym yn credu o'r dystiolaeth a glywsom nad oedd digon o wybodaeth a dealltwriaeth o gwmpas adnabod rhai o arwyddion Aflonyddwch Ymddygiadol Acíwt."

Dros gyfnod o bythefnos o dystiolaeth, clywodd y rheithgor yng nghanolfan ddinesig Casnewydd gan swyddogion a benderfynodd atal Mouayed Bashir, ynghyd â thystiolaeth feddygol arbenigol a thystion o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dywedwyd wrth y llys fod ei ymddygiad yn gyson ag Aflonyddwch Ymddygiadol Acíwt neu “ABD”, cyflwr lle gall dioddefwyr arddangos “cryfder goruwchddynol” ac anallu i deimlo poen, ond a all eu gadael yn agored i ataliad ar y galon.

Clywodd y cwest y gall ABD gael ei achosi gan ddefnyddio cyffuriau. 

Cynghorir yr heddlu i geisio osgoi defnyddio ataliaeth mewn achosion o'r fath.

Roedd rhieni Mouayed, yn ogystal â’i frodyr Mohannad a Mohamed, yn y llys i glywed y dyfarniad ddydd Gwener.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.