Heddlu yn ymchwilio wedi adroddiad o gynnau tân bwriadol ger Caernarfon
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau o dân yn cael ei gynnau yn fwriadol ger Caernarfon.
Cafodd swyddogion yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw i ymateb i dân yng Nghroesfan Griffiths, ger Y Felinheli, toc wedi hanner nos ar ddydd Iau 1 Chwefror.
Y gred yw bod y tân wedi ei ddechrau yn fwriadol.
Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw unigolion a oedd yn gyrru ar yr A4871 tuag at Gaernarfon yn hwyr nos Fercher 31 Ionawr neu yn ystod oriau mân fore Iau 1 Chwefror, a welodd unrhyw beth amheus neu sydd ag unrhyw luniau dashcam, i gysylltu â nhw.
Gallai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000135653.