Enwi a dedfrydu y ddau lofrudd ifanc oedd yn gyfrifol am farwolaeth Brianna Ghey
Mae enwau'r ddau berson ifanc oedd yn gyfrifol am lofruddio Brianna Ghey yn Warrington wedi eu cyhoeddi, ar ôl i waharddiad llys gael ei godi.
Cafodd Scarlett Jenkinson a Eddie Ratcliffe, sydd yn 16 oed, eu dedfrydu yn Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener.
Maen nhw wedi cael eu carcharu am oes am isafswm o 22 ac 20 mlynedd cyn parôl.
Roedd y ddau'n 15 oed pan wnaethant lofruddio Brianna mewn ymosodiad "gwyllt a ffyrnig" mewn parc yn y dref ar 11 Chwefror y llynedd.
Cafodd Brianna, merch ysgol drawsryweddol fregus, ei thrywanu â chyllell hela 28 o weithiau yn ei phen, ei gwddf, ei brest a’i chefn ar ôl cael ei hudo i Linear Park, Culcheth.
Cafodd Jenkinson, oedd yn ffrind ysgol i Brianna a merch i athrawon, sy’n byw’n agos at y parc, ei hadnabod fel merch X yn unig yn ystod yr achos llys fis Rhagfyr diwethaf.
Roedd Ratcliffe, o Leigh, wedi ei ddisgrifio fel bachgen Y yn unig yn ystod yr achos.
Llofruddiaeth 'erchyll'
Roedd y ddau wedi gwadu llofruddiaeth ac wedi beio'i gilydd am farwolaeth Brianna, gafodd ei ddisgrifio fel llofruddiaeth “erchyll” gan dditectifs.
Cafodd y cyfryngau eu gwahardd rhag eu henwi yn ystod yr achos oherwydd eu hoedran.
Ar ôl iddyn nhw gael eu canfod yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor, dyfarnodd barnwr yr achos Mrs Ustus Yip y gallai'r wasg enwi'r ddau yn eu gwrandawiad dedfrydu ddydd Gwener yn dilyn apêl ar ran y cyfryngau gan asiantaeth newyddion PA.
Mae Ratcliffe, sydd wedi cael diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac sy’n fud, a Jenkinson, sydd wedi cael diagnosis o nodweddion o awtistiaeth ac ADHD, yn wynebu dedfryd oes orfodol pan fydd Mrs Ustus Yip yn eu dedfrydu’n ddiweddarach fore Gwener.
Yn ddeallus ac yn dod o gefndiroedd cyffredin, clywodd y llys yn ystod eu hachos fod gan y ddau ddiddordeb mawr mewn trais, artaith a llofruddiaeth a “syched am ladd”.
Nid oedd y naill na'r llall wedi bod mewn helynt gyda'r heddlu o'r blaen.
Roedd y ddau wedi bod yn trafod llofruddiaeth Brianna am wythnosau, gyda Jenkinson yn creu "cynllun llofruddiaeth".
Dywedwyd wrth reithgor ei bod yn “anodd dirnad” sut y gallai’r ddau ddiffynnydd sy’n blant gyflawni trosedd mor greulon.