Newyddion S4C

Vaughan Gething yn dweud y byddai'n blaenoriaethu datganoli Ystâd y Goron

02/02/2024
Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething wedi dweud y bydd galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru yn flaenoriaeth iddo os yw’n ennill yr ornest i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

Mae Ystâd y Goron, sy'n berchen ar dros hanner gwely'r môr oddi ar arfordir Cymru, yn gwmni annibynnol sy’n eiddo i’r Brenin. Mae'r cyllid o’i bortffolio eiddo yn werth £16 biliwn ac yn llifo’n uniongyrchol i’r Trysorlys yn Llundain.

Cafodd taliadau’r ystâd i'r Alban ei ddatganoli yn 2016, ac mae ei refeniw bellach yn mynd i Lywodraeth yr Alban.

Mae Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru esioes wedi galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru.

Dywedodd Vaughan Gething y byddai yn galw am ddatganoli rhagor o rymoedd i Gymru pe bai yn brif weinidog, gyda datganoli Ystâd y Goron ar frig y rhestr blaenoriaethau.

Ag yntau’n gweinidog yr economi Llywodraeth Cymru, mae'n un o ddau ymgeisydd ynghyd â'r gweinidog addysg Jeremy Miles yn y ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur. 

“Os caf fy ethol yn arweinydd Llafur Cymru ac yn brif weinidog, cyfrifoldeb am Ystâd y Goron yw’r set bwysicaf o bwerau newydd y byddai ein Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol yn eu ceisio ar gyfer y Sened,” meddai.

“Dyma’r maes polisi unigol a fyddai, o’i ddatganoli, yn dod â’r budd mwyaf i bocedi pobl yng Nghymru – ac i’r blaned. 

“Rhaid i ynni adnewyddadwy o Gymru ddod â budd i bobl Cymru, ac mae datganoli Ystâd y Goron i Gymru yn gam hanfodol i gyflawni hynny.”

‘Disodli’

Fe ychwanegodd Vaughan Gething mewn erthygl ar wefan Nation.Cymru bod angen datganoli mwy o bwerau o fewn Cymru hefyd.

“Nid dim ond mwy o bwerau i Gymru yw fy ngweledigaeth ar gyfer datganoli; mae angen i fwy o bwerau gael eu rhannu â chymunedau ledled Cymru hefyd,” meddai.

“Ni allwn ac ni ddylem fod yn fodlon â disodli canoli yn Llundain â chanoli ym Mae Caerdydd. 

“Nid dyna ffordd Llafur Cymru o wneud pethau, ac nid dyna fy ffordd i. Gallwn fynd ymhellach eto a rhoi pŵer yn nwylo pobl ledled Cymru.”

‘Blaenoriaethau’

Daw sylwadau Vaughan Gething wedi i’r wrthwynebydd Jeremy Miles lansio ei faniffesto yn Y Rhyl ddydd Iau.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai yn canolbwyntio ar ddenu Cymry ar wasgar yn ôl adref pe bai yn Brif Weinidog.

Fe fydd yn lansio ymgyrch newydd “Gwnewch hi yng Nghymru” er mwyn denu talent dros Glawdd Offa, meddai.

Byddai hefyd yn edrych ar gymhellion ariannol i ddenu graddedigion newydd, a gweithio gyda llywodraeth Lafur posib ar lefel y DU er mwyn sicrhau bod plant yn rhydd o dlodi, meddai.

Dywedodd Jeremy Miles fod ganddo “gynllun i wneud Cymru yn genedl gyfoethog a thosturiol”.

Er mwyn gwneud hynny, mae’n addo gwneud twf economaidd cynaliadwy yn brif flaenoriaeth i'w lywodraeth.

“Mae’r maniffesto rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn gosod cenhadaeth glir ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai.

“Bydd llywodraeth yr wyf yn ei harwain yn canolbwyntio ar flaenoriaethau o ddydd i ddydd pobl ledled Cymru, a bydd y blaid yr wyf yn ei harwain wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau.

“Bydd yn cyflwyno syniadau newydd a llawn dychymyg sy’n adlewyrchu profiadau dydd i ddydd pobl ledled Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.