Dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ar Ynys Môn
02/02/2024
Mae dyn yn ei 30au yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrwiad ffordd ar Ynys Môn ddydd Iau.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw am 17:36 wedi adroddiadau o wrthdrawiad un cerbyd ar Ffordd Minffordd ger Caergeiliog.
Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Aintree yn Lerpwl ar ôl cael ei ddarganfod gan aelodau'r cyhoedd wedi iddo syrthio oddi ar ei feic modur BMW.
Mae swyddogion yn apelio am dystion a allai fod wedi gallu gweld y gwrthdrawiad neu'r beic modur yn teithio ar hyd Ffordd Minffordd.
Maent yn annog aelodau'r cyhoedd i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q015469.