Newyddion S4C

Cau'r ffenest drosglwyddo: Clybiau a chwaraewyr Cymru

02/02/2024
Kieffer Moore

Wrth i'r ffenest drosglwyddo rhwng clybiau ddod i ben yn y byd pêl droed, pa chwaraewyr y mae Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd wedi eu harwyddo er mwyn cryfhau eu tîm wrth fynd mewn i ail hanner y tymor?

Caerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi arwyddo chwaraewr canol cae Celtic David Turnbull, asgellwr chwith Manchester City Josh Wilson-Esbrand a gôl-geidwad Nottingham Forest Ethan Horvath.

Mae Turnbull, sy'n chwarae i'r Alban, wedi arwyddo am ffi heb ei datgelu, ac wedi cytuno ar gytundeb tan 2027.

Mae Horvath yn chwaraewr UDA ac wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner tra bod Wilson-Esbrand yn ymuno ar fenthyg am weddill y tymor.

Maent hefyd wedi arwyddo'r ymosodwr Famara Diedhiou o Granada yn La Liga yn ogystal â'r amddiffynnwr Nat Phillips ar fenthyg o Lerpwl am weddill y tymor.

Abertawe

Dau chwaraewr y mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi eu harwyddo yn ystod y ffenestr drosglwyddo, sef ymosodwr Arsenal Charles Sagoe Jr a Przemyslaw Placheta o Norwich City. 

Fe fydd Sagoe Jr, 19, yn ymuno â'r clwb ar fenthyg am weddill y tymor. 

Mae Placheta, 25, hefyd wedi arwyddo tan ddiwedd y tymor ar ôl dod â'i gytundeb gyda Norwich i ben.

Mae'r clwb hefyd wedi arwyddo Ronald o Gremio Anapolis am ffi heb ei ddatgelu, gan gytuno ar gytundeb tan 2027.

Wrecsam

Wrth i dîm Phil Parkinson barhau i geisio cyrraedd Adran Un y tymor nesaf, fe fydd amddiffynnwr Salford City Luke Bolton yn ymuno yn ogystal â'r ymosodwr o Fleetwood Town Jack Marriott.

Mae'r ddau wedi arwyddo am ffioedd heb eu datgelu, gyda Marriott, 25, wedi arwyddo tan 2025 a Bolton, 24, tan 2026. 

Mae Wrecsam ar hyn o bryd yn yr ail safle yn Adran Dau.

Casnewydd

Dim ond un chwaraewr sydd wedi ymuno â Chasnewydd yn ystod y ffenestr trosglwyddo sef Luke Jephcott.

Yn ymuno o glwb St Johnstone yn Yr Alban, fe gafodd Jephcott ei eni yn Aberystwyth, gan chwarae i glybiau Plymouth Argyle, Truro a Swindon Town.

Chwaraewyr Cymru

Mae ambell un o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru hefyd wedi newid clybiau yn ystod y ffenest drosglwyddo.

Fe fydd ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn ymuno ar fenthyg o Bournemouth i Ipswich Town am weddill y tymor, tra bod Leeds United wedi arwyddo Connor Roberts o Burnley am weddill y tymor. 

Mae David Brooks hefyd yn ymuno â Southampton o Bournemouth ar fenthyg am weddill y tymor. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.