Newyddion S4C

Ffordd i dref Biwmares ar gau wedi tirlithriad

01/02/2024
Ffordd ar gau

Mae'r brif ffordd i dref Biwmares ar Ynys Môn yn parhau ar gau wedi tirlithriad bychan ddechrau'r wythnos.

Mae Cyngor Ynys Môn yn dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd ffordd yr A545 yn ail-agor erbyn y penwythnos.

Digwyddodd y tirlithriad nos Lun, a mae'r cyngor wedi bod yn gweithio i glirio'r ffordd.

"Yn dilyn symud deunyddiau rhydd, mwy na ddisgwyliwyd i ddechrau, gwelwyd bod dwy goeden yn ansefydlog. Mae'r rhain wrthi'n cael eu torri gan arbenigwyr coed ar hyn o bryd," meddai'r cyngor mewn datganiad.

"Yn dilyn y gwaith hwn, gallwn barhau a'r gwaith o glirio'r pridd yn ol i gyflwr diogel a chlirio gweddill y gwastraff oddi ar y safle.

"Gobeithir y bydd y ffordd yn gallu ailagor erbyn y penwythnos."

Mae ffordd yr A545, sy'n rhedeg gyferbyn ag afon Menai, wedi gorfod cau sawl tro yn y gorffennol oherwydd tirlithriadau tebyg, ac mae rhai trigolion lleol wedi galw am adeiladu ffordd newydd.

Image
Ffordd Biwmares

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.