Newyddion S4C

Wrecsam yn arwyddo dau chwaraewr newydd

01/02/2024
Chwaraewyr Wręczam

Mae clwb pêl droed Wrecsam wedi arwyddo dau chwaraewr newydd wrth iddyn nhw anelu am ddyrchafiad.

Mae'r blaenwr Jack Marriott wedi ymuno o Fleetwood, ac mae'r amddiffynwr Luke Bolton wedi cyrraedd y Cae Ras o Salford.

Mae Marriott, sy'n 29 mlwydd oed, wedi sgorio dros 100 o goliau yn ystod ei yrfa, sy'n cynnwys cyfnodau yn y Bencampwriaeth gyda Derby a Peterborough.

"Rydan ni'n falch iawn o ddod â Jack i'r clwb," meddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson. "Mae ganddo brofiad ar lefel uwch, ac mae'n dod ato ni gyda'r bwriad o wneud cyfraniad go iawn yn ystod ail hanner y tymor."

Mae Luke Bolton yn 24 mlwydd oed, ac yn gynnyrch academi Manchester City. Mae wedi chwarae i Salford ugain o wetihaiu'r tymor yma, a mae wedi cynrychioli tim dan 20 Lloegr.

"Mae Luke yn ychwanegiad da iawn i'r garfan," meddai Parkinson. "Mi fydd o'n ychwanegu lot o gyflymder ac ynni."

Lluniau: Clwb pêl droed Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.