Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn pobl fregus rhag prisiau ynni

02/02/2024
Tlodi ynni

Mae angen cynllun tymor hir i sicrhau fod prisiau ynni'n fforddiadwy i filiynau o bobl fregus, yn ol grwp o elusennau.

Y gaeaf  yma, mae tua 3.4 miliwn o gartrefi yn diodde o dlodi ynni - tua 1 ymhob 8 cartref yn y D.U, meddai'r grwp.

Mae'r elusennau, sy'n cynnwys Age UK, Scope, MND association, Mencap, a Sense, yn galw am sefydlu "tariff ynni cymdeithasol" ar gyfer y bobl  sydd mwyaf bregus mewn cyfnodau o oerfel.

Mae nhw'n dweud y byddai cynllun o'r fath yn golygu na fyddai 2.2 miliwn o bobl  yn diodde o dlodi tanwydd.

"Ym mis Ionawr 2024 dywedodd  dros 3.4 miliwn o bobl dros 60 oed bod eu cartrefi yn rhy oer y rhan fwyaf o'r amser," meddai Caroline Abrahams o Age UK .

"Dydy hi ddim yn  dderbyniol bod yn rhaid iddyn nhw fyw o dan y fath amodau.

"Rydym angen ateb parhaol, ar ffurf tariff ynni cymdeithasol, i sicrhau na fydda nhw byth eto yn gorfod wynebu gaeaf arall o filiau sy'n amhosib eu rheoli."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni Llywodraeth y DU:"Mae tariff cymdeithasol yn ymwneud â diogelu pobl fregus, a dyna'n union rydym ni'n wneud wrth gynnig cefnogaeth ariannol sylweddol i'r rhai sydd fwyaf ei angen." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.