Mynnu darlledu gemau Chwe Gwlad ar sianeli di-dâl yn 'bygwth dyfodol Undeb Rygbi Cymru'
Byddai gorfodi gemau Chwe Gwlad Cymru i fod ar sianeli di-dâl yn bygwth dyfodol Undeb Rygbi Cymru, yn ôl eu prif weithredwr newydd.
Dywedodd Abi Tierney wrth bwyllgor diwylliant y Senedd ddydd Iau fod buddsoddiad parhaus i rygbi Cymru yn ddibynnol iawn ar hawliau'r cyfryngau.
"Heb os, mae'n rhaid i ni sicrhau'r cydbwysedd rhwng yr asesiad o pa gyrhaeddiant sydd ei angen arnom ni a'r buddsoddiad yn y gêm," meddai.
"Heb y buddsoddiad hwn, byddem ni yn ei chael hi'n anodd iawn i barhau i oroesi fel undeb."
Dywedodd Ms Tierney fod yr undeb yn ennill tua £90m y flwyddyn mewn cyfanswm refeniw, gan gynnwys £20m ar gyfartaledd o hawliau cyfryngau, gyda thua £62m yn cael ei wario ar y gêm gymunedol a rhanbarthol.
"Byddai hyd yn oed colli 20-30% o hynny yn cael effaith enfawr ar draws y gêm."
Cafodd galwadau i ddarlledu gemau'r Chwe Gwlad ar sianeli di-dâl yn unig eu gwrthod gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf.
Daw'r penderfyniad yn dilyn pwysau gan ASau o Gymru i ychwanegu gemau'r bencampwriaeth i restr o chwaraeon sydd yn gorfod cael eu darlledu ar sianeli di-dâl.
Caiff y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu gwarchod ar gyfer sianeli di-dâl yn unig eu hadnabod fel rhestr 'Grŵp A'.
Ar y rhestr yma mae Cwpan y Byd pêl-droed, rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, y Gemau Olympaidd a rowndiau terfynol Wimbledon - ond ni fydd y Chwe Gwlad yn cael eu cynnwys.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker bod angen i'r gamp fod yn ymarferol yn ogystal â gweladwy.
Roedd Mr Walker yn arfer bod yn gyfrifol am drafodaethau hawliau chwaraeon gyda BBC Wales, a disgrifiodd yr hinsawdd presennol fel "y storm berffaith."
Dywedodd bod gwerthu hawliau chwaraeon wedi bod yn gynyddol anodd yn ddiweddar yn sgil y sefyllfa economaidd.
"Mae'r duedd ar i lawr ac mae’r cynigion sy’n cael eu gwneud dros y 12 mis diwethaf yn benodol yn dangos dirywiad o 30%."
Dywedodd Mr Walker wrth y pwyllgor na fyddai'r undeb o reidrwydd yn cefnogi'r ymgeisydd sydd wedi cynnig y swm uchaf pan fydd yr hawliau yn mynd ar werth yn 2024.
Cytunodd bod yn rhaid i rygbi ddysgu o'r hyn ddigwyddodd i griced, lle gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl oedd yn chwarae'r gamp wedi i gemau byw ddiflannu o sianeli di-dâl .
O ran darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd Mr Walker fod yr undeb yn bwriadu sicrhau fod y cyfle ar gael bob tro naill ai ar S4C neu ar y botwm coch.