Dim gwasanaeth bad achub o Bwllheli oherwydd ffraeo mewnol
Does dim gwasanaeth bad achub o Bwllheli yng Ngwynedd bellach wedi i'r RNLI ddweud fod y berthynas rhwng aelodau o'r criw wedi "torri i lawr yn ddifrifol."
Mae nifer o swyddogion allweddol yn yr orsaf wedi ymddiswyddo, ac mae'r elusen wedi penderfynu i "ailosod" gweithgareddau yno.
Mewn datganiad, dywedodd yr RNLI eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad "teg, trylwyr a chadarn" yn ymwneud â'r pryderon yn yr orsaf.
"Mae'r RNLI yn cydnabod, tra bod nifer o'r gwirfoddolwyr ym Mhwllheli yn parhau wedi eu hymrwymo i achub bywydau yn y môr, nid yw hi'n bosib i redeg gwasanaeth achub bywyd gweithredol gyda drwgdybiaeth a diffyg harmoni parhaus," medden nhw.
"Nid yw'r penderfyniad wedi bod yn un hawdd ond mae'n hanfodol er mwyn symud ymlaen gyda gorsaf bad achub cynhwysol a chynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae gwirfoddolwyr sy'n dymuno ail-adeiladu'r tîm wedi cael eu gwahodd i drafod "y posibilrwydd o ail-sefydlu eu perthynas gwirfoddol."