Nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru yn gostwng i'w lefel isaf
Nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru yn gostwng i'w lefel isaf
Mae nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru wedi gostwng i’w lefel isaf ers i gofnodion gael eu cadw.
Dyma’r tro cyntaf i nifer y gwrandawyr wythnosol ddisgyn o dan 100,000 ar gofnod.
Roedd gostyngiad o 40,000 yn nifer y gwrandawyr wythnosol yn chwarter olaf 2023 o gymharu gyda'r un cyfnod flwyddyn yn ôl - ffigwr sydd i lawr i 95,000 o wrandawyr.
135,000 oedd yn gwrando’n wythnosol dros yr un cyfnod yn 2022.
Mae'r ffigyrau'n gyfuniad o'r nifer sy'n gwrando'n fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2, ond nid ydynt yn cynnwys gwrandawyr sydd yn gwrando'n ôl ar raglenni.
Fe wnaeth canran cyrhaeddiad BBC Radio Cymru ddisgyn bron i 29% dros y flwyddyn hefyd, yn ôl ffigyrau gwrando diweddaraf RAJAR, y corff sydd yn gyfrifol am fesur y gynulleidfa radio.
Nid yw figyrau gwrando'r orsaf wedi bod mor isel ers sefydlu RAJAR yn 1992.
Roedd nifer y gwrandawyr yn ei anterth yn ystod pedwerydd chwarter 2021 yn ystod y pandemig Covid-19. Bryd hynny roedd 164,000 o bobl yn gwrando ar yr orsaf.
Golyga hyn bod 70,000 yn llai yn gwrando'n wythnosol ar Radio Cymru ers y cyfnod hwnnw.
Yn ôl y BBC, mae'r orsaf yn "parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg, boed hynny wrth wrando’n fyw neu ar alw."
'Ymddiriedaeth'
Yn ôl un sylwebydd ar y diwydiant radio, mae dirywiad yn 'ymddiriedaeth' gwrandawyr Radio Cymru wedi effeithio ar y nifer sydd yn gwrando.
Dywedodd Gareth Joy, gohebydd Radio Today Wales: “Mae 'na lot o resymau am hyn. Yn gyntaf, ar ôl Covid, achos dwy flynedd yn ôl roedd y ffigyrau gorau ers 40 mlynedd ac roedd y cyrhaeddiad yn 164,000. Dwy flynedd ymlaen ac mae o wedi cwympo 69,000.
“Dwi’n meddwl ei fod yn rhannol oherwydd mi ydan ni y tu hwnt i’r pandemig rŵan, ond dwi’n meddwl fod rhywfaint o ymddiriedaeth y cyhoedd wedi mynd dros y cyfnod hwnnw, yn enwedig gyda’r ffordd y wnaethon nhw ymdrin ag ymadawiad Geraint Lloyd...
“Dwi yn teimlo dros y staff sy’n gweithio yno, dwi’n cael y teimlad eu bod nhw wedi eu gadael i lawr gymaint a mae’r gwrandawyr wedi eu gadael i lawr."
Ychwanegodd Mr Joy: “Mae ffigyrau ar y rhwydwaith a gorsafoedd lleol wedi disgyn hefyd. Mae’r BBC wedi gwthio BBC Sounds lot, a sgwn i os ydy hynny ar draul ffigyrau gorsafoedd fel Radio Cymru, ac i raddau llai, Radio Wales?
“Os mae Radio Cymru wedi cael llwyddiant ar Sounds neu yn ddigidol, mae’n rhaid dangos hynny, yna rhannwch y ffigyrau.
"Mae hefyd shifft o wrando ar orsafoedd y BBC drwy Brydain, nid just Gymru. Mae 'na lot o ffactorau ar waith ac yn anffodus, mae Radio Cymru wedi dioddef yn fwy na’r rhan mwyafrif.
"Y sialens fawr ydi, beth sydd nesaf i Radio Cymru? Ydi diwedd Dafydd Meredydd (Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg y BBC) efallai? Oes 'na shake up i ddod i’r amserlen? Beth fydd yn digwydd i Radio Cymru 2, fyddan nhw’n dod yn rhan o Rajar?"
'Cyfrwng pwysig'
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym yn cydnabod adroddiad diweddara’ RAJAR a byddwn yn dadansoddi’r ffigyrau yn fanwl, fel sy’n digwydd bob amser, gan edrych ar y patrymau gwrando sydd wedi datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf.
"Mae radio yn gyfrwng pwysig i’n cynulleidfaoedd ac mae Radio Cymru yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg, boed hynny wrth wrando’n fyw neu ar alw.
"Mae’n werth nodi mai ffigyrau gwrando byw sydd yn cael eu cofnodi gan RAJAR.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffyrdd mae ein cynulleidfaoedd yn gwrando yn newid a’r llynedd bu i dros 2.1 miliwn o geisiadau i wrando ar ein cynnwys yn ddigidol ar BBC Sounds.”