Gwirfoddolwr Bad Achub Pwllheli yn ymddeol ar ôl 50 mlynedd

Cliff Thomas

Mae un o wirfoddolwyr y Bad Achub ym Mhwllheli wedi ymddeol ar ôl 50 mlynedd o wasanaeth.

Mae Clifford 'Cliff' Thomas wedi derbyn medal a thystysgrif i gydnabod ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r RNLI ym Mhwllheli.

Dechreuodd Mr Thomas, sy'n 71 oed, wirfoddoli fel aelod o griw y Bad Achub yn 1975.

Yna fe gafodd ei benodi'n rheolwr yr orsaf ym Mhwllheli, gan barhau yn y swydd tan 2021.

Wrth adlewyrchu ar bum degawd o wirfoddoli, dywedodd Mr Thomas bod ymroddiad y gwirfoddolwyr i achub bywydau'r un mor amlwg nawr ag yr oedd yn 1975.

"Pan ddechreuais roedd y cwch achub ond yn gallu teithio chwech i saith o notiau, erbyn hyn mae'n gallu cyrraedd 25.

"Yn y dyddiau hynny, yr unig dechnoleg oedd radio - doedd dim cyfarpar radar - ac roedd pob un archwiliad o'r môr yn cymryd oriau.

"Roeddem yn ymarfer pob chwech wythnos, o gymharu gydag ymarfer yn wythnosol erbyn hyn.

"Ond yr un peth sydd heb newid yw ymroddiad y gwirfoddolwyr i achub bywydau.

"Fe fydd yn rhyfedd peidio cael fy ngalw i fynd allan i'r môr wedi'r holl flynyddoedd, ond yn sicr fyddai'n gallu cysgu'n sownd ar noson stormus yn gwybod byddai ddim yn cael fy ngalw allan."

Image
Gorsaf Bad Achub Pwllheli
Gorsaf Bad Achub Pwllheli

Bydd Cliff Thomas yn trosglwyddo’r awenau i Andy Vowell, a fydd yn cymryd drosodd fel rheolwr gorsaf Bad achub Pwllheli.

Diolchodd Mr Vowell i Cliff Thomas am ei arweinyddiaeth ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd Mr Vowell bod Cliff yn "ysbrydoliaeth" wrth ddiolch iddo am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd.

"Mae Cliff wedi bod yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o griwiau ym Mhwllheli.

"Mae yn wybodus ac mae ei ymrwymiad wedi ei wneud yn gonglfaen i'r orsaf hon.

"Rydym yn ddiolch yn fawr iddo am hanner ganrif o wasanaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.