Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ganfod mewn fan oedd ar dân
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ganfod mewn fan oedd ar dân yn Sir Ddinbych.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cyhuddo dyn 38 oed o lofruddiaeth.
Bydd Thomas Matthew Hammond Bell o'r Rhyl yn ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Cafodd corff dynes ei ddarganfod mewn fan oedd ar dân ar Lôn Gas Works, Prestatyn nos Sul.
Fe gafodd archwiliad post-mortem gan y Swyddfa Gartref ei gynnal ddydd Mawrth ar y corff a gafodd ei ganfod yn y fan, gan arwain at gadarnhad bod y dioddefwr yn ddynes ac yn oedolyn.
Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ac mae’r heddlu yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â phwy yw hi.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley fod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ac sydd heb siarad gyda'r heddlu eto i gysylltu gyda ni.
"Cysylltwch drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw ar y we neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000816112.”
