‘Dydy popeth ddim ar ben’ er gwaethaf dirywiad byd-eang mewn bywyd gwyllt

Llun: Sion Emlyn Davies,undefined
Sion Emlyn

Mae gostyngiad o 73% ar gyfartaledd ym maint poblogaethau bywyd gwyllt sy’n cael eu monitro ledled y byd yn “ffigwr dychrynllyd”, ond nid yw’n golygu bod “popeth ar ben”, yn ôl y naturiaethwr Siôn Emlyn Davies.

Daw ei sylwadau wrth i adroddiad Living Planet diweddaraf elusen natur WWF (World Wildlife Fund) ddangos bod maint poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng 73% ar gyfartaledd rhwng 1970 a 2022.

Mae’r dadansoddiad, gafodd ei gynnal ar y cyd gyda Chymdeithas Sŵolegol Llundain, yn edrych ar 35,803 o boblogaethau o 5,970 o rywogaethau o adar, pysgod, mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid.

Ond roedd tua hanner y poblogaethau gafodd eu hastudio naill ai’n sefydlog neu’n cynyddu.

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth Siôn Emlyn Davies bwysleisio bod angen deall beth yn union mae’r ffigwr o 73% yn ei olygu.

“Mae o’n ffigwr sy’n peri pryder mawr ac mae o’n dangos faint yr her sydd o’n blaenau ni o ran colli natur a bioamrywiaeth ar draws y byd,” meddai.

“Dydy o ddim yn golygu bod 73% o holl fywyd gwyllt y byd wedi diflannu.

“Mae’n golygu bod maint y poblogaethau a’r rhywogaethau gafodd eu monitro ganddyn nhw wedi gostwng 73% ar gyfartaledd.”

‘Mae yna obaith’

Mae WWF yn rhybuddio bod natur yn parhau i ddirywio ar raddfa fyd-eang, gyda newid hinsawdd, colli cynefinoedd a’r ffordd mae tir ac adnoddau’n cael eu defnyddio ymhlith y pwysau ar fywyd gwyllt.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at enghreifftiau o rywogaethau sydd wedi adfer.

Mae nifer y teigrod gwyllt wedi cynyddu 70% ers 2010, tra bod poblogaethau dyfrgwn môr yng Ngogledd America, eliffantod yn ne Affrica, crwbanod gwyrdd a thiwna asgell las hefyd wedi gwella.

Yn ôl WWF, roedd nifer y tiwna asgell las yn yr Iwerydd wedi gostwng 80% erbyn 2010, ond mae camau gan lywodraethau a’r diwydiant wedi helpu’r rhywogaeth i adfer.

Maen nhw bellach yn cael eu gweld unwaith eto mewn dyfroedd o amgylch Prydain.

Image
Dyfrgi'r môr, eliffant Affricanaidd
Mae dyfrgi'r môr a'r eliffant Affricanaidd wedi cynyddu mewn niferoedd mewn rhai mannau.

Cyfeiriodd Siôn Emlyn at lwyddiannau eraill yn y DU, gan gynnwys yr afanc, yr eryr cynffon-wen a’r barcud coch, yn ogystal â gwaith cadwraeth i helpu gwiwerod coch ar Ynys Môn.

“Mae’r straeon yn dangos bod cadwraeth yn gallu gweithio, bod pobl ar lawr gwlad yn gwneud y gwaith caled yma i wneud yn siŵr bod y rhywogaethau yma’n ffynnu,” meddai.

“Ond hefyd rhaid i ni fod yn ofalus. Dydyn ni ddim yn edrych ar lond llaw o straeon llwyddiannus a meddwl bod y broblem wedi’i datrys chwaith.”

Yn ôl Siôn Emlyn, nid achub un rhywogaeth ar y tro yn unig sydd ei angen.

“Mae angen i ni feddwl sut ’dan ni’n creu’r systemau yma a chaniatáu i natur ffynnu lle ’dan ni’n byw.

“Dwi’n bendant ddim isio pobl weld y ffigwr a meddwl bod popeth ar goll.”

Adfer ‘yn sydyn iawn’

Mae WWF yn dweud bod newidiadau mawr hefyd eu hangen i systemau bwyd, ynni a chyllid y byd er mwyn gwrthdroi’r dirywiad.

Mae’r elusen yn dadlau nad yw gwaith cadwraeth ar ei ben ei hun yn ddigon, a bod angen mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n gyrru colli natur.

Ond yn ôl Siôn Emlyn, mae’r enghreifftiau o adferiad yn dangos pa mor gyflym y gall natur ymateb pan fo'r amodau’n iawn.

“Pan ’dan ni’n rhoi’r amodau cywir i natur, lleihau’r pwysau ar rywogaethau a gwneud amser a lle iddyn nhw, mae natur yn gallu ymateb ac adfer yn sydyn iawn, a weithiau ofnadwy o sydyn,” meddai.

“Mae yna dal gyfle i ni fynd i newid y ffordd ’dan ni’n byw.”

Ychwanegodd fod y prif neges yn un o bryder, ond hefyd o obaith.

“Mae gennym ni broblem fawr, ond mae gennym ni hefyd dystiolaeth bod pethau’n gallu newid os ’dan ni’n gwneud y pethau cywir.

“Er bod y 73% yna yn ffigwr dychrynllyd, dydy o ddim yn ffigwr sy’n dweud wrthon ni yng Nghymru bod popeth ar ben.”

Llun canol: Charles J. Sharp, CC BY-SA 4.0, via Wikimedia Commons/Marshal Hedin from San Diego, CC BY-SA 2.0, via Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.