Ar y brig: Datgelu enillydd Coeden y Flwyddyn 2026

Coeden gam Newcastle

“Coeden Gam” o Ogledd Iwerddon sydd wedi codi i’r brig yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn y DU eleni.

Mae’r lwyfen lydanddail wedi sefyll ar y promenâd yn Newcastle, tref glan môr yn Sir Down ar arfordir dwyreiniol yr ynys, ers mwy na 150 o flynyddoedd.

Gyda boncyff sydd bron yn llorweddol yn sgil effaith blynyddoedd o dywydd garw, cafodd ei disgrifio fel “eicon poblogaidd” sy’n “benderfynol o oroesi.”

Fe bleidleisiodd degau o filoedd o aelodau’r cyhoedd ar-lein am eu hoff blanhigyn yn y gystadleuaeth wedi i’r trefnwyr, Coed Cadw, ddatgelu rhestr fer o 10 yn gynharach eleni.

Thema’r gystadleuaeth ar gyfer 2026 oedd coed sydd wedi goresgyn heriau sylweddol.

Image
Coeden Llwybr Arfordir Cymru (Coed Cadw/Will Parker)
Y dderwen hon yng Ngheredigion oedd yn cynrychioli Cymru

Yr unig ymgeisydd o Gymru yn y 10 olaf oedd derwen fach anarferol ger Llwybr Arfordir Cymru yn Eglwys-fach, Ceredigion.

Disgrifiodd y trefnwyr hi fel “gwarchodwr unig” sydd wedi goroesi “blynyddoedd o stormydd a sychder yn ogystal â phori, ac wedi cynnig cysgod a lloches i lawer o gerddwyr blinedig.”

Ond Coeden Gam Newcastle sy’n hawlio’r penawdau - a hi yw’r gyntaf o Ogledd Iwerddon i ennill yr anrhydedd.

Image
Coeden Gam Newcastle

Yn ogystal â goroesi tywydd gwyllt yr arfordir, mae hi wedi goroesi datblygiad: y lwyfen yw’r unig un sydd ar ôl o res o goed tebyg gafodd eu plannu yn ystod Oes Fictoria.

Fe lwyddodd hefyd i orchfygu clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, math o ffwng sydd wedi niweidio llawer o’r rhywogaeth.

Lluniau Coeden Gam: Michael Cooper Photography. Llun Coeden Llwybr Arfordir Cymru: Will Barker

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.