Dafydd Owain yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026
Mae Dafydd Owain wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2026 am ei albwm Ymarfer Byw.
Roedd y cerddor o Gaernarfon yn un o 15 o artistiaid ar y rhestr fer eleni, oedd hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd fel Gruff Rhys, Aleighcia Scott, Skindred ac Ani Glass.
Ymarfer Byw yw ail albwm solo Dafydd Owain, ac fe gafodd ei ryddhau ym mis Hydref 2025.
Mae’r albwm yn deillio o gyfnod emosiynol iawn ym mywyd y canwr-gyfansoddwr, ac er ei themâu tywyll mae hefyd yn cynnwys eiliadau o hiwmor, goleuni a harddwch.
Dyma’r drydedd wobr fawr i Ymarfer Byw eleni, wedi i’r albwm ennill Record Hir Orau yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Bydd rhaglen arbennig, Dafydd Owain: Ymarfer Byw (I’r Byw), sy’n mynd â’r gynulleidfa i fyd yr albwm, i’w gweld ar S4C nos Sadwrn am 21:00.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei chyflwyno mewn digwyddiad nos Fercher yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Fe gafodd tri artist addawol, Mwsog, Casual Smart a Betsan, eu gwobrwyo fel rhan o’r digwyddiad hefyd, gan ennill Gwobr Trisgell. Roedd y tri yn perfformio yn y seremoni, ochr yn ochr â sawl artist arall.
Roedd anrhydedd hefyd i Mary Hopkin, yr eicon gwerin o Bontardawe, a enillodd Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2011. Ymhlith prif enillwyr y gorffennol mae Gruff Rhys, Georgia Ruth, Adwaith a Don Leisure.
Pwy oedd ar y rhestr fer eleni?
- ADJUA - Everything Is Beautiful
- Aleighcia Scott - Taith
- Ani Glass - Phantasmagoria
- Art School Girlfriend - Lean In
- Cerys Hafana - Angel
- CHROMA - 25 Forever
- Dafydd Owain - Ymarfer Byw
- Dewin - Dan y Dderwen
- Gruff Rhys - Dim Probs
- Gwenifer Raymond - Last Night I Heard the Dog Star Bark
- Local - Too Broke to Be This Busy
- Mari Mathias - Cyfarwydd
- Skindred - You Got This
- The Bug Club - Every Single Muscle
- The Royston Club - Songs For The Spine
