Staff diplomyddol Prydeinig yn gadael wedi i Israel gau conswliaeth Dwyrain Jerwsalem

Mae'r Gweinidog Tramor, Ed Miliband, wedi beirniadu penderfyniad Israel
Ed Miliband, Conswliaeth Dwyrain Jerwsalem

Mae staff diplomyddol y DU wedi gadael conswliaeth y wlad yn Nwyrain Jerwsalem ar ôl i Israel ddweud y byddai’n cau’r swyddfa.

Mae’r datblygiad yn rhan o ymateb Israel i bolisi newydd y Llywodraeth y DU sy’n atal masnach gydag ymsefydlwyr Israelaidd ar y Lan Orllewinol, sy’n cael ei hystyried yn rhan o diriogaeth Palesteina.

Dywedodd y Gweinidog Tramor, Ed Miliband, na fyddai’r adeilad ei hun yn cau ond byddai’n cael ei drawsnewid yn “genhadaeth” fydd yn parhau i “ddarparu gwasanaethau hanfodol” a “gweithio gyda phobl Palesteina.”

Mae’r gonswliaeth yn ganolfan bwysig ar gyfer y berthynas rhwng y DU a llywodraeth Palesteina. Er hynny, Israel sydd yn rheoli Dwyrain Jerwsalem, gyda nifer o wledydd, gan gynnwys Prydain, yn dweud bod yr ardal wedi ei “meddiannu’n anghyfreithlon.”

Dywedodd Gweinidog Tramor Israel, Gideon Sa’ar, fod y gonswliaeth Brydeinig yn “dod â’i gweithgareddau i ben heddiw,” gan ychwanegu fod arwydd y sefydliad wedi’i dynnu i lawr.

Ychwanegodd fod y conswl cyffredinol ac 20 o ddiplomyddion wedi gadael Israel, gan adael saith diplomydd yn unig ar ôl.

“Doedden ni ddim eisiau cyrraedd y pwynt hwn, ond gweithredoedd y Llywodraeth Lafur a harweiniodd ni i’r fan hyn,” meddai.

Miliband: 'Dim hawl' i gau'r swyddfa

Mae’r DU wedi cynyddu’r pwysau ar Israel yn yr wythnosau diweddar gan gyflwyno sancsiynau a chyhuddo llywodraeth Israel o anwybyddu “puro ethnig” ar y Lan Orllewinol.

Mae’r mesurau’n cynnwys gwaharddiad ar fewnforion o aneddiadau anghyfreithlon yn y Lan Orllewinol a sancsiynau yn erbyn unigolion a chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau i ymsefydlwyr.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Miliband: “Rydym wedi bod yn glir nad ydym yn derbyn bod gan Lywodraeth Israel yr hawl gyfreithiol i gau Conswliaeth Gyffredinol Prydain yn Jerwsalem, sydd wedi bod yno ers bron i 200 mlynedd.

“Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Israel, ni fydd adeilad ein Conswliaeth gyffredinol yn cau, a bydd yn cael ei adnabod fel ‘Cenhadaeth y DU, Jerwsalem’ o heddiw ymlaen.

“Mae Cenhadaeth y DU, Jerwsalem yn annibynnol ac yn weithredol, a bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a gweithio gyda phobl Palestina.”

Llun: Swyddfa Dramor/Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.