Amser i feddwl am gau Swyddfa Cymru meddai Mark Drakeford
Mae Mark Drakeford yn dweud bod “yr amser wedi dod” i feddwl am gau Swyddfa Cymru.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd cyn-brif weinidog Cymru ei "fod yn bwysig i bethau newid yn San Steffan hefyd" ar ôl "chwarter canrif o ddatganoli".
"[O ran] cael pobl sy’n gyfrifol yn unigryw am Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydyn ni wedi symud dros y pwynt yna yn fy marn i," meddai.
Wrth gael ei holi a fyddai’n hapus i gael gwared ar Swyddfa Cymru, dywedodd: “Ie, dwi’n meddwl bod yr amser wedi dod i feddwl am hwnna.
"Wrth gwrs oedd Tony Blair wedi meddwl am hwnna hefyd. Mae hwnna wedi bod yn rhan o’r trafodaethau yn San Steffan nid jyst nawr ond am fwy na degawd.”
Mae Swyddfa Cymru yn adran o Lywodraeth y DU dan oruchwyliaeth Ysgrifennydd Cymru. Mae Stephen Kinnock wedi bod yn y swydd honno ers Gorffennaf 2026.
Un o alwadau Llafur yng Nghymru pan oedd y blaid mewn llywodraeth oedd datganoli heddlua i Gymru, a dyna bolisi swyddogol y blaid yng Nghymru o hyd.
Ond er bod Andy Burnham wedi dweud ei fod yn “agored” i drafodaeth ar heddlua, mae Stephen Kinnock wedi dweud “nad yw wedi ei argyhoeddi”.
Pan ofynnwyd i Mark Drakeford am hynny, dywedodd: “Wel mae lot o bethau yna yn barod, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu tynnu ar unrhyw adroddiadau, gan Gordon Brown, gan yr Arglwydd Thomas ac yn y blaen so mae digon o bethau gyda ni yn barod.
"Wrth gwrs, mae’n bwysig i feddwl am y dystiolaeth honno yn y cyd-destun presennol ond does dim rhaid i hynny gymryd lot o amser achos mae’r achos yna yn barod.”
'Mynd rownd y Senedd'
Wrth gael ei holi pam nad yw Cymru mewn sefyllfa well nag y mae ar ôl 27 mlynedd o ddatganoli, dywedodd Mark Drakeford: “Mae lot o bethau pwysig wedi digwydd yng Nghymru dros y cyfnod diwethaf.
"Fi jyst ddim yn cytuno o gwbl pan mae pobl yn dweud ‘mae popeth yng Nghymru’n wael’ - dyw hynna ddim yn wir o gwbl.”
“Edrychwch ar beth ydyn ni wedi’i greu yma yng Nghymru ym maes addysg.
“Mae system ddwyieithog gyda ni yng Nghymru, system sydd wedi llwyddo, sy’n tynnu mwy o bobl ifanc i fewn i gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy Saesneg.
“Mae’r bobl ifanc yng Nghymru sy’n llwyddo mewn addysg, maen nhw’n gwneud yn well na phobl ifanc yn Lloegr neu yn yr Alban.
"Be sydd gyda ni yng Nghymru yw nifer rhy fawr o bobl ifanc sydd ddim yn dod mas o’r system addysg gyda chyfleusterau ac yn y blaen.”
Ynghylch sefyllfa economaidd Cymru ers dechrau datganoli, dywedodd: “I unrhyw berson sy’n sosialaidd, o’r economi mae cyfleon yn codi i bobl.
"Fy niddordeb i yw sut y gallwn ni ffeindio mwy o gyfle i bobl greu cymdeithas fwy cyfartal.
“Mae’r gwaith mae’r llywodraeth yn gwneud yn creu yr amodau ble mae’r economi yn gallu llwyddo a trial cael y ddau peth at ei gilydd dyna’r gwaith mae’r llywodraeth yn gwneud a dyna’r syniad mae pobl o’r ochr chwith yn ei ddeall.”
Pan ofynnwyd iddo am ei farn am alwad y Prif Weinidog, Andy Burnham, am ddatganoli dyfnach yng Nghymru, dywedodd Mr Drakeford ei fod "eisiau gweld datganoli dyfnach, mae hynny yn bwysig i ni yng Nghymru".
"A dw i eisiau gweld pwerau yn mynd tu fas i Gaerdydd, i gynghorau lleol ac asiantaethau eraill, ond nid gwneud hynny drwy fynd rownd y Senedd. Mae’n bwysig mynd drwy’r Senedd, ond drwy’r Senedd mas i’r rhanbarthau eraill.
“Mae Senedd gennyn ni yng Nghymru, Senedd wnaeth y Blaid Lafur greu ac mae’n bwysig i roi mwy o bwerau. Mae lot o bethau ydyn ni’n gallu gwneud yn agosach at bobl ac rydyn ni wedi gwneud pethau fel hynny o’r blaen.”
Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C, S4C Clic, YouTube Newyddion S4C a BBC iPlayer.
