Rhyddhau dyn heb gamau pellach wedi marwolaeth dyn ger traeth Y Bermo
Mae dyn 24 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn y môr ger traeth Y Bermo yng Ngwynedd ym mis Mai wedi cael ei ryddhau heb gamau pellach.
Bu farw Ruhul Amin Nana, 34 oed, a oedd yn athro o ardal Birmingham, ar 25 Mai.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r traeth ychydig ar ôl 15:00 yn dilyn adroddiadau bod dyn yn y dŵr.
Er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw Mr Nana yn y fan a’r lle.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.
Ond ddydd Iau, dywedodd y llu nad yw'r dyn a gafodd ei arestio bellach dan ymchwiliad ac na fydd yn wynebu camau pellach.
Ychwanegodd yr heddlu fod adroddiad yn cael ei baratoi i’w gyflwyno i’r crwner.
Mae teulu Mr Nana wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.
Cwest
Ym mis Mehefin, clywodd agoriad cwest i farwolaeth Mr Nana ei fod wedi marw o achosion annaturiol.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon, dywedodd Uwch-grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mr Nana wedi ei eni yn ninas Navsari, India, ym mis Hydref 1991.
Cafodd ei farwolaeth ei chadarnhau yng ngorsaf bad achub yr RNLI yn Y Bermo am 16.55, ac fe gafodd ei adnabod yn ffurfiol gan aelod o'i deulu.
"Roedd Mr Nana yn y môr pan ddaeth yn ddiymateb. Bu farw y fuan wedyn," meddai'r crwner.
Dywedodd bod archwiliad port mortem wedi ei orchymyn i'r farwolaeth a bod achos rhesymol i amau bod y farwolaeth yn un annaturiol.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Llun: Ruhul Amin Nana / Traeth Y Bermo
