Awyrennau Hawk yr Awyrlu'n hedfan eto o'r Fali bythefnos ar ôl damwain
Mae awyrennau Hawk T2 yr Awyrlu wedi ailddechrau hedfan o faes awyr ym Môn, bythefnos ar ôl i ddau aelod o griw ddianc cyn i'w hawyren blymio i'r ddaear a ffrwydro.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd RAF Y Fali fod y penderfyniad i hedfan yr Hawk T2 eto wedi ei wneud ar ôl “adolygiad trylwyr o’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a gweithgaredd sicrhau diogelwch priodol.”
Ychwanegodd y datganiad: “Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ar y lefel uchaf, ar ôl craffu helaeth, bod y rheolaethau diogelwch a’r mesurau sicrhau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychwelyd i hedfan sydd wedi ei fesur a'i reoli.
“Mae diogelwch criwiau awyr, personél a chymunedau lleol yn parhau i fod yn hollbwysig, a bydd yr ymchwiliad i ddigwyddiad y mis diwethaf yn parhau ochr yn ochr â phrosesau hedfan a sicrhau diogelwch arferol.”
Cafodd dau o griw yr Hawk T2 eu cludo i'r ysbyty ar ôl gorfod gadael yr awyren drwy ddefnyddio parasiwtiau yn ardal Pencarnisiog o'r ynys ar 22 Medi.
Cafodd y ddau fynd adref yn ddiweddarach.
Fe wnaeth lluniau fideo o'r digwyddiad ddangos yr awyren yn plymio i'r ddaear cyn ffrwydro mewn pelen o dân.
Mae awyrennau Hawk T2 yn cael eu defnyddio i hyfforddi peilotiaid yr Awyrlu Brenhinol ac mae ganddynt gyfarpar hedfan tebyg i'r awyren jet Typhoon.
Caiff ei defnyddio yng nghamau olaf y broses o hyfforddi peilotiaid.