Heddlu'n cytuno bod gwarantau chwilio cartrefi Andrew Mountbatten-Windsor yn groes i'r gyfraith
Mae Heddlu Dyffryn Tafwys ac Andrew Mountbatten-Windsor wedi cytuno bod y gwarantau a ganiataodd i swyddogion chwilio dau o'i gartrefi yn gynharach eleni yn groes i'r gyfraith, yn ôl barnwr yn yr Uchel Lys.
Ond mae'r heddlu wedi cadarnhau bod yr ymchwiliad troseddol i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn parhau.
Roedd Andrew Mountbatten-Windsor, cyn-Ddug Efrog, wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr heddlu ynghylch dilysrwydd y gwarantau gafodd eu cyhoeddi gan farnwr yn yr Old Bailey ym mis Chwefror.
Roedd y gwarantau wedi caniatáu i swyddogion chwilio ei gartref ar ystâd Sandringham yn Norfolk a'i gyn-gartref, Royal Lodge, yn Windsor.
Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Iau, cadarnhaodd y Barnwr Hilliard fod y ddwy ochr wedi cytuno nad oedd y gwarantau'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Ond pwysleisiodd y barnwr nad yw diddymu'r gwarantau yn golygu bod yr ymchwiliad wedi dod i ben, nac ychwaith fod yr ymchwiliad cyfan yn mynd yn groes i'r gyfraith.
Ymchwiliad yn parhau
Mewn datganiad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Heddlu Dyffryn Tafwys fod y llys wedi gwneud camgymeriad wrth gyhoeddi'r gwarantau o dan y ddeddfwriaeth a ddefnyddiwyd, ac felly bod rhaid eu diddymu.
Cadarnhaodd yr heddlu fod achos cyfreithiol yn parhau i benderfynu beth fydd yn digwydd i'r deunydd gafodd ei atafaelu yn ystod y chwiliadau, ac a oes modd i'r heddlu ei gadw fel rhan o'r ymchwiliad.
Ychwanegodd llefarydd fod yr ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan ddyn yn ei 60au o Norfolk yn parhau, a'u bod yn dal i ymchwilio i bob trywydd rhesymol.
Cafodd Andrew Mountbatten-Windsor, sy'n 66 oed, ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn dilyn honiadau iddo rannu gwybodaeth sensitif gyda Jeffrey Epstein tra'r oedd yn gennad masnach y DU.
Cafodd ei holi gan yr heddlu cyn cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae'n gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
Nid oedd Andrew Mountbatten-Windsor yn bresennol yn y gwrandawiad ddydd Iau.