![Dolffiniaid](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/dolffin%20cemaes%202.jpg?itok=M-yYrGdn)
Lluniau: Achub chwe dolffin oedd yn sownd ar draeth Bae Cemaes
Mae gwylwyr y glannau wedi achub chwe dolffin oedd yn sownd ar draeth Bae Cemaes.
Treuliodd y gwirfoddolwyr ddiwrnod yn cynorthwyo'r dolffiniaid nes iddyn nhw nofio allan i’r môr gyda’r nos.
Roedden nhw’n cydweithio gyda chriw Achub Bywyd Morol y Deifwyr Prydeinig.
![Dolffiniaid](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/dolffin%20cemaes%202.jpg?itok=M-yYrGdn)
“Rhywbeth ychydig yn wahanol heddiw,” medden nhw.
“Buom yn cynorthwyo gwirfoddolwyr Achub Bywyd Morol y Deifwyr Prydeinig a oedd wedi treulio'r diwrnod cyfan yn achub chwe Dolffin Cyffredin a oedd wedi mynd yn sownd ar y traeth.
“Treuliodd y gwirfoddolwyr anhygoel y diwrnod cyfan yn cadw golwg arnyn nhw ac yn eu cynorthwyo nes iddynt lwyddo i nofio yn ôl allan i'r môr gyda'r llanw uchel gyda'r nos.
“Os dewch chi ar draws unrhyw beth fel hyn ffoniwch 01825 765546.”
![Dolffiniaid. Llun Gwylwyr y Glannau](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/dolffin%20cemaes%203.jpg?itok=QNfGeyL4)
![Dolffiniaid.](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/dolffin%20cemaes%204.jpg?itok=xrcwB7Az)