Newyddion S4C

Dyn o flaen llys wedi ei gyhuddo o drywanu dau fachgen yn eu harddegau

01/02/2024
Mason Rist, 15, a Max Dixon, 16.

Fe fydd dyn 44 oed yn ymddangos yn y llys ddydd Iau wedi’i gyhuddo o lofruddio dau fachgen yn eu harddegau ym Mryste.

Fe fydd Anthony Snook, o Hartcliffe, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bryste ddydd Iau wedi’i gyhuddo o lofruddio Mason Rist, 15, a Max Dixon, 16.

Cafodd y bechgyn eu trywanu yn Ilminster Avenue, Knowle West, nos Sadwrn.

Cafodd y bechgyn eu cludo i ddau ysbyty, Ysbyty Southmead ac Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, mewn ambiwlans, ond bu’r ddau farw yn oriau mân fore Sul. 

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gary Haskins, pennaeth Tîm Ymchwilio Troseddau Mawr Heddlu Avon a Gwlad yr Haf: “Mae hon yn foment hollbwysig yn ein hymchwiliad ac mae teuluoedd Mason a Max wedi cael gwybod am y datblygiad hwn.

“Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cymorth iddyn nhw ac rydym yn parhau i ofyn i’w preifatrwydd gael eu parchu a’u bod nhw’n cael llonydd i alaru.

“Mae cyfanswm o wyth o bobl wedi’u harestio fel rhan o’n hymchwiliad gyda phump arall yn ogystal ag Anthony Snook yn y ddalfa.

“Mae ein hymchwiliad yn symud yn gyflym gyda mwy na 100 o swyddogion a staff yn gweithio bob awr o’r dydd i ddod â phawb sy’n gyfrifol am farwolaeth Mason a Max o flaen eu gwell.

“Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau ar unrhyw ddatblygiadau pan allwn.

“Yn y cyfamser, hoffem atgoffa pobl o’r effaith y gallai dyfalu, lluniau a delweddau ar gyfryngau cymdeithasol eu cael ar deuluoedd Mason a Max yn ogystal ag ar achos llys sydd i ddod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.