Arriva yn gwrthod casglu teithwyr o bentref yng Nghonwy yn sgil y terfyn cyflymder 20mya
Mae cwmni bysiau Arriva wedi cael ei feirniadu wedi iddo gael gwared ar un pentref oddi ar lwybr arferol gwasanaeth bws yng Nghonwy yn sgil y terfyn cyflymder 20mya.
Dywedodd y cwmni na fyddan nhw bellach yn casglu trigolion o bentref Penrhyn-side, ar gyrion tref Bae Penrhyn oherwydd bod y cyfyngiad 20mya yn golygu na fydd modd gwneud hynny yn "brydlon".
Mae hynny wedi arwain at bryderon y bydd teithwyr, a nifer ohonyn nhw yn rhai hŷn, heb gludiant.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei drefnu, ond mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy Janet Finch-Saunders eioes wedi beirniadu'r cwmni bysiau.
"Mae Arriva wedi cael gwared ar y gwasanaeth bws yn Penrhyn-side, ac mae hynny’n achosi llawer iawn o broblemau i bobl,” meddai.
"Dydi pobl ddim yn gallu cerdded lawr o'r pentref i Landudno. Mae bendant angen gwasanaeth bws gwell na'r hyn sydd gennym ni. Rydym ni gyd yn flin gydag Arriva am gael gwared ar y gwasanaeth heb unrhyw ymgynghori gyda thrigolion ac aelodau Cyngor Conwy.
"Mae'n ardal fryniog a serth. Dylai fod ar y prif lwybr bws. Mae yna lawer o bobl yno heb geir. Dwi'n siomedig."
'Cyflymach'
Mae'r newid yn golygu mai'r safle bws agosaf ydi rhai Craigside a Chraig y Don.
Dywedodd llefarydd ar ran Arriva Cymru mai'r terfyn cyflymder 20mya a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi y llynedd sydd ar fai.
"Yn sgil y cyfyngiadau 20mya, cawsom ein gorfodi i adolygu ein holl wasanaethau er mwyn eu cadw mor brydlon â phosib," meddai.
"O ran gwasanaetau 14 a 15, roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniad i roi rhagor o amser i'r daith a'i newid i ffyrdd cyflymach.
"Ers y newidiadau hyn, mae prydlondeb wedi cynyddu yn sylweddol; ond rydym ni'n ystyried holl sylwadau y teithwyr a byddwn yn adolygu'r gwasanaethau yn rheolaidd."
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Gwener.