Newyddion S4C

Heddlu Llundain yn chwilio am ddyn wedi i hylif gael ei daflu dros fam a'i phlant

01/02/2024
Abdul Ezedi

Mae'r heddlu yn Llundain wedi cyhoeddi enw dyn mae nhw'n chwilio amdano ar ôl ymosodiad ar fam a dau blentyn ifanc yn y ddinas.

Cafodd  y ddynes a'r plant eu cludo i'r ysbyty wedi i hylif sy'n llosgi'r croen gael ei daflu drostyn nhw.

Ddydd Iau dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n chwilio am Abdul Ezedi, 35 oed, o Newcastle mewn cysylltiad a'r digwyddiad.

Mae nhw'n dweud fod ganddo anafiadau sylweddol i ochr dde ei wyneb. Mae nhw wedi rhybuddio'r cyhoedd i beidio mynd yn agos ato.

Fe ymatebodd yr heddlu i'r digwyddiad yn Lessar Avenue ger Comin Clapham, yn Llundain tua 19:25 ddydd Mercher.

Cafodd tri aelod arall o’r cyhoedd eu cludo i’r ysbyty hefyd ar ôl y digwyddiad.

Y gred yw eu bod nhw wedi dioddef anafiadau wrth roi cymorth i’r ddynes a'i phlant.

Dywedodd un tyst wrth y BBC bod y fam wedi dweud “Dw i ddim yn gallu gweld, dw i ddim yn gallu gweld” wrth iddo geisio ei helpu.

Dywedodd Heddlu Llundain fod tri swyddog a ymatebodd i’r digwyddiad hefyd wedi’u hanafu.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Alexander Castle mai “mân anafiadau” oedden nhw.

“Tra bod profion yn parhau i benderfynu beth yw’r sylwedd, ar hyn o bryd rydyn ni’n credu ei fod yn sylwedd cyrydol (corrosive substance),” meddai.

“Gwelwyd dyn yn ffoi o’r olygfa. Rydym yn defnyddio adnoddau o bob rhan o’r Met i ddal yr unigolyn hwn.

“Mae gwaith yn mynd rhagddo i benderfynu beth sydd wedi arwain at y digwyddiad ofnadwy yma.”

Nid oes unrhyw un wedi cael ei arestio hyd yma a dywedodd yr heddlu y byddan nhw'n cynnig diweddariad ar gyflwr y rhai sydd wedi eu hanafu cyn gynted ag y gallan nhw.

Llun gan James Weech / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.