Newyddion S4C

Adfer gwasanaeth rheilffordd ‘rheolaidd’ am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd

01/02/2024
Agerfarch

Bydd gwasanaeth rheilffordd “rheolaidd” yn rhedeg rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd wedi £70m o fuddsoddiad.

O hyn ymlaen, bydd 30 o drenau'r dydd yn rhedeg rhwng y dref ar flaenau’r cymoedd â'r drydedd ddinas fwyaf yng Nghymru.

Lansiodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y gwasanaeth newydd heddiw gan ddweud ei fod “wedi cymryd amser hir ac wedi gofyn am lawer o fuddsoddiad”.

“Nawr, gall pobl deithio'n uniongyrchol i Gasnewydd neu Gaerdydd bob awr, nid yn unig ar drac newydd ond ar drenau newydd hefyd."

‘Gofalus’

Ailddechreuodd gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd ar reilffordd Glynebwy nôl yn 2008 ar ôl cau yn 1962. 

Ail-agorwyd gorsafoedd yn Nhŷ-Du, Rhisga a Phontymister, Crosskeys, Trecelyn, Llanhiledd a safle parcio a theithio newydd, Parcffordd Glynebwy.

Yn ystod 18 mis cyntaf y gwasanaethau newydd, teithiodd dros filiwn o bobl ar hyd y lein. 

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail ar gyfer Cymru a'r Gororau y byddai'r datblygiad yn “annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gefnogi ein nod o ddatgarboneiddio yng Nghymru”.

“Hoffwn hefyd ddiolch i deithwyr a chymunedau am eu hamynedd wrth i ni gwblhau'r uwchraddiad hwn ac atgoffa pobl, yn sgil cyflwyno gwasanaethau newydd, y dylent fod yn arbennig o ofalus ger croesfannau rheilffyrdd,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.