Newyddion S4C

Jeremy Miles eisiau denu Cymry ar wasgar yn ôl pe bai'n Brif Weinidog

01/02/2024
Jeremy Miles

Mae Jeremy Miles wedi dweud y bydd yn canolbwyntio ar ddenu Cymry ar wasgar yn ôl adref pe bai yn Brif Weinidog wrth iddo lansio ei faniffesto yn y Rhyl ddydd Iau.

Dywedodd y bydd yn lansio ymgyrch newydd “Gwnewch hi yng Nghymru” er mwyn denu talent dros Glawdd Offa.

Bydd hefyd yn edrych ar gymhellion ariannol i ddenu graddedigion newydd, a gweithio gyda llywodraeth Lafur posib ar lefel y DU er mwyn sicrhau bod plant yn rhydd o dlodi.

Ag yntau’n weinidog Addysg a’r Gymraeg, mae'n un o ddau ymgeisydd ynghyd â'r gweinidog economi Vaughan Gething yn y ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru.

Dywedodd Jeremy Miles fod ganddo “gynllun i wneud Cymru yn genedl gyfoethog a thosturiol”.

Er mwyn gwneud hynny, mae’n addo gwneud twf economaidd cynaliadwy yn brif flaenoriaeth i'w lywodraeth.

Ymysg addewidion y maniffesto mae:

  • Ehangu'r cynllun ynni effeithlon ar gyfer cartrefi ac adeiladau presennol
  • Creu map Sgiliau'r Dyfodol cenedlaethol, gan ragweld anghenion sgiliau'r dyfodol
  • Adolygiad o gymorth busnes i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer dyfodol economaidd Cymru. 
  • Datblygu cynllun i helpu pobol sy’n rhentu i brynu tai.
  • Adfer bioamrywiaeth yng Nghymru erbyn 2050.
  • Canolbwyntio ar wella darpariaeth iechyd menywod.

“Mae’r maniffesto rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn gosod cenhadaeth glir ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai.

“Bydd llywodraeth yr wyf yn ei harwain yn canolbwyntio ar flaenoriaethau o ddydd i ddydd pobl ledled Cymru, a bydd y blaid yr wyf yn ei harwain wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau.

“Bydd yn cyflwyno syniadau newydd a llawn dychymyg sy’n adlewyrchu profiadau dydd i ddydd pobl ledled Cymru.”

‘Dechreuad cryf’

Daw cyhoeddiad Jeremy Miles wedi i Vaughan Gething addo dydd Sadwrn i ehangu cynlluniau gofal plant am ddim yng Nghymru pe bai'n cael ei ethol yn Brif Weinidog.

Dywedodd ei fod am weld rhieni yn parhau i allu “gweithio neu ddysgu fel y mynnant” – heb i gostau gofalu plant orfod eu “dal yn ôl.”

“Byddwn yn rhoi dechreuad cryf i holl blant Cymru, waeth beth fo’u cefndir, tra hefyd yn galluogi rhieni i weithio neu ddysgu fel y mynnant.

“Ni ddylai costau gofal plant fod yn dal pobl yn ôl.

“Rydym yn ymrwymo i ehangu ein cynnig gofal plant wrth i gyllid ddod ar gael,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.