Newyddion S4C

Difa cŵn XL Bully anghyfreithlon yn fwy tebygol ‘os yw perchnogion yn anghyfrifol’

01/02/2024

Difa cŵn XL Bully anghyfreithlon yn fwy tebygol ‘os yw perchnogion yn anghyfrifol’

Bydd cŵn XL Bully anghyfreithlon yn fwy tebygol o gael eu difa os yw eu perchnogion yn ymddwyn mewn modd anghyfrifol neu’n dreisgar yn ôl un o benaethiaid yr heddlu ar droseddau cŵn yng Nghymru a Lloegr.

Mae bellach yn drosedd cadw ci XL Bully heb dystysgrif eithrio, gan olygu y gall perchnogion gael eu herlyn ac y gall cwn sydd heb eu cofrestru gael eu cymryd i ffwrdd.

Mae disgwyl y bydd 40,000 o’r cŵn wedi eu cofrestru ond mae’n debygol y bydd miloedd o berchnogion heb wneud.

Mae pennaeth cŵn peryglus Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Mark Hobrough wedi annog aelodau o’r cyhoedd i wneud cwyn yn erbyn perchnogion XL Bully sydd ddim yn dilyn y rheolau.

Ond dywedodd fod y cŵn yn fwy tebygol o gael eu difa os nad oedd y perchennog yn un cyfrifol neu ei fod yn ymddwyn mewn modd treisgar.

“Byddwn yn annog pawb i gydymffurfio â’r gyfraith a’r ddeddfwriaeth,” meddai Mark Hobrough.

“Os nad yw pobl wedi rhoi eu ci ar y gronfa ddata eisoes, maent yn cyflawni trosedd.

“Rydyn ni fel heddluoedd yn mynd i fod yn gorfodi’r gyfraith. Wnaethon ni ddim creu’r gyfraith ond rydym yn gorfodi’r gyfraith a bydd yn rhaid i ni weithredu gwarantau a meddiannu cŵn a gweithredu yn erbyn perchnogion cŵn o’r fath.

“Byddwn yn annog pobl yn gryf i gydymffurfio oherwydd un o’r union feini prawf yn y llys yw nad yw’r ci yn ymosodol, ond hefyd bod y perchennog yn gyfrifol a ddim yn ymosodol.

“Os nad yw’r naill neu’r llall o’r pethau hynny’n wir fydd yna ddim opsiwn i lys bryd hynny ond difa’r ci.”

Cefnu

O ddydd Mercher ymlaen, er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif sy'n eu heithrio, mae angen i berchnogion brofi bod eu ci XL Bully wedi ei ysbaddu [triniaeth sydd yn atal y ci rhag gallu cael cŵn bach]. 

Gyda chi bach yn iau na blwydd oed, bydd angen iddo gael ei ysbaddu cyn diwedd 2024, a bydd angen cyflwyno tystiolaeth i brofi hynny. 

Mae angen hefyd i berchnogion XL Bully dalu am y cais i'w heithrio, a phrynu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (public liability) ar gyfer y cŵn, gan sicrhau hefyd fod gan yr anifail ficrosglodyn.  

Daw'r gwaharddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfres o ymosodiadau gan gŵn XL Bully, yn eu plith y bachgen 10 oed o Gaerffili, Jack Lis, a gafodd ei ladd gan gi XL Bully yn 2021.

Mae mam Jack, Emma Whitfield wedi cwestiynu pam nad yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu ynghynt i wahardd y math yma o gi. 

Ond mae elusen yr RSPCA wedi dweud nad y mesurau diweddaraf hyn yw'r ateb, gan rybuddio na fydd llochesi anifeiliaid a milfeddygon yn medru ymdopi wrth i nifer fawr o  berchnogion gefnu o bosib ar eu cŵn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.