Caerdydd i gynnal rowndiau terfynol rygbi Ewrop 2025
Caerdydd fydd y lleoliad ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Rygbi Ewrop a Chwpan Her Ewrop y tymor nesaf.
Daeth cyhoeddiad gan Rygbi Clwb Proffesiynol Ewrop (EPCR) ddydd Mercher fod Stadiwm Principality wedi ei dewis i gynnal y ddwy ffeinal yn 2025.
Dyma’r tro gyntaf i’r brifddinas gynnal ffeinal Cwpan y Pencampwyr ers 2014, yn y flwyddyn y bydd y stadiwm yn dathlu chwarter canrif ers ei hagor.
Caerdydd oedd y lleoliad ar gyfer rownd derfynol gyntaf y gystadleuaeth yn ogystal.
Dywedodd Abi Tierney, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Undeb Rygbi Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Stadiwm Principality wedi’i ddewis i gynnal y gystadleuaeth fwyaf ym myd rygbi clwb Ewropeaidd; Rowndiau Terfynol Cwpan Pencampwyr Investec 2025 a Chwpan Her EPCR.
“Mae 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gaerdydd gynnal y Rownd Derfynol gyntaf honno ym Mharc yr Arfau Caerdydd ac rydym yn achub ar y cyfle i gynnal rowndiau terfynol 2025 yn Stadiwm Principality, yn y flwyddyn rydym yn dathlu 25 mlynedd o’n stadiwm odidog."
Effaith economaidd
Dywedodd y cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, bod y Stadiwm wedi cynhyrchu tua £2 biliwn o wariant ymwelwyr a chefnogi mwy na 50,000 o swyddi llawn yn lleol ers iddo gael ei hagor.
“Mae Caerdydd a Rygbi bob amser wedi mynd law yn llaw, felly rydym yn falch iawn o groesawu Cwpan Pencampwyr Investec a Rowndiau Terfynol Cwpan Her EPCR yn ôl i’r ddinas am y tro cyntaf ers degawd.
“Yn wir, y tro diwethaf i'r twrnamaint gyrraedd Caerdydd, cynhyrchodd £24 miliwn mewn effaith economaidd uniongyrchol o un gêm ddydd Sadwrn yn unig.
“Y flwyddyn nesaf, gyda phenwythnos cyfan i’w fwynhau, byddem yn rhagweld y byddai hynny’n uwch eto.”