'Hollol annerbyniol': Arestio dyn am yrru 160mya ar yr M4
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus ar ôl ei ffilmio ei hun yn gyrru 160mya ar yr M4, meddai’r heddlu.
Cafodd fideo yn dangos y dyn yn gyrru Nissan GTR dros ddwywaith y terfyn cyflymder ei uwchlwytho ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd yr heddlu bod y drosedd wedi digwydd rhwng cyffyrdd 16 ac 18 tua 12.45 ddydd Sul.
Cafodd y gyrrwr sydd yn ei 30au ei arestio brynhawn dydd Mercher ar amheuaeth o yrru yn beryglus.
Mae’r car hefyd wedi ei gymryd gan yr heddlu.
“Roedd hyn yn hollol annerbyniol,” meddai'r Rhingyll Ben Cox.
“Gallai gyrru ar y fath gyflymder achosi trychineb a fyddai yna ddim amser i ymateb i unrhyw beth.
“Ni fyddwn yn goddef gyrru peryglus fel hyn ar ein ffyrdd a byddwn yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud hynny yn cael eu canfod a’u dwyn gerbron y llysoedd.”
Mae’r gyrrwr wedi’i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.
Llun gan Jonathan Brady / PA.