Newyddion S4C

Cynlluniau i gau ffwrneisi chwyth ‘fwy neu lai’ wedi eu cadarnhau, medd Tata

31/01/2024

Cynlluniau i gau ffwrneisi chwyth ‘fwy neu lai’ wedi eu cadarnhau, medd Tata

Mae prif weithredwr Tata wedi dweud fod cynlluniau gau ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot “mwy neu lai” wedi eu cwblhau.

Dywedodd swyddogion gweithredol y cwmni fod blynyddoedd o golledion o dros £1 miliwn ar y safle, yn ogystal â rhai asedau yn dod i ddiwedd eu cyfnod, yn golygu fod yn rhaid “gweithredu nawr”.

Wrth drafod gyda phwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher, dywedodd prif weithredwr y cwmni TV Narendran bod y cwmni eisoes wedi buddsoddi biliynau o bunnoedd ym Mhort Talbot dros gyfnod o 15 mlynedd, ond roeddent wedi cyrraedd y pwynt ble roedd “rhaid gwneud penderfyniadau”.

Roedd y penderfyniad i osod ffwrnais arc drydanol newydd ar draul dwy ffwrnais chwyth yn rhan “o’r dyfodol” a fyddai’n sicrhau fod y safle yn parhau i gynhyrchu dur, meddai.

“Mae’r asedau yn dod i ddiwedd eu hoes, a fyddai wedi cyflwyno risg gynyddol. Mae cyfle nawr i fuddsoddi mewn proses sy’n fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy.”

Gwrthododd Tata gynlluniau’r undebau, a oedd yn cynnwys cadw un ffwrnais chwyth yn gweithredu tra bod yr un newydd yn cael ei hadeiladu, ond dywedodd Mr Narendran wrth ASau: “Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i ni yw faint yn fwy o arian y gallwn ei roi i mewn i fusnes nad yw’n gweithio.

“Nid yw lefel y colledion yn gynaliadwy.” 

Fe awgrymodd pwyllgor gwaith Tata y gallai cwmnïau eraill sy’n colli cymaint o arian fod wedi mynd yn fethdalwyr, ond dywedodd fod y cwmni wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ddatrysiad i gadw gwaith dur ar y safle.

Image
Y Pwyllgor Materion Cymreig
Y Pwyllgor Materion Cymreig (Llun: parliamentlive.tv)

'Gweithio gyda'r undebau'

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb AS, i Mr Narendran ar ba bwynt y bydd cynllun Tata “wedi’i chwblhau”.

Atebodd Mr Narendan: “O ystyried ein sefyllfa ariannol ac ansawdd yr asedau, rydyn ni yno fwy neu lai. 

“Mae angen i ni weithio gyda’r undebau i weld beth yw’r ffordd orau o weithio drwy’r cyfnod pontio.”

Clywodd y pwyllgor yn gynharach mai dim ond “megis cychwyn” y colli swyddi oedd y 2,800 fyddai yn mynd o Tata.

Dywedodd Charlotte Brumpton-Childs o'r GMB y byddai llawer yn yn fwy o swyddi yn cael eu colli o ganlyniad.

“Dim ond megis cychwyn y broses yw’r 2,800 o swyddi a gollwyd oherwydd y sgil effaith ar bobl sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi logistaidd, caffis cyfagos lle mae gweithwyr yn prynu eu brechdanau bacwn a hyd yn oed ysgolion dawns y mae plant y gweithwyr dur yn mynd iddyn nhw,” meddai hi.

“Mae gennym ni un aelod a arwyddodd gytundeb morgais bythefnos cyn i’r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, uwch gynrychiolydd i’r undeb sydd yn ei 20au hwyr ac sydd eisiau swydd am y 50 neu 60 mlynedd nesaf.

“Nid yw hwn yn ddiwydiant sy’n marw – mae’n fywiog ac y gallai fod yn darparu swyddi am y 100 mlynedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.