'Parhau â'r traddodiad’: Perchnogion newydd yn achub becws poblogaidd ym Mhen Llŷn
Mae perchnogion newydd yn gobeithio achub becws a chaffi poblogaidd ym Mhen Llŷn ar ôl i'r busnes gael ei werthu gan deulu oedd wedi bod yn pobi ar y safle ers dros 60 mlynedd.
Mae Becws a Chaffi Gwalia wedi bod yn rhan gyfarwydd o Stryd Fawr Pwllheli ers iddo agor yn 1918.
Mae’r busnes wedi bod dan berchnogaeth y teulu Pritchard ers 1960, wedi iddo gael ei brynu gan Robin a Glenys Pritchard, yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle gan y perchennog gwreiddiol Mrs Wallis Gruffydd.
Yn ddiweddarach, fe aeth plant Mr a Mrs Pritchard, Eric a Sifian, ymlaen i weithio yn y becws ac i redeg y busnes am dros dri degawd.
Ond mae'r perchnogion bellach wedi gwerthu siop a chaffi Gwalia, sydd yn enw cyfarwydd yn yr ardal, i berchnogion becws Popty Tandderwen ym Metws-y-coed.
'Cadw'r enw'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Sifian y bydd hi a'i brawd yn ymddeol ac yn hapus i weld dyfodol y busnes mewn dwylo diogel.
“Da ni wedi bod yn trio gwerthu ers dros tua 15 mlynedd, a dwi’n siŵr sa ni’m yn medru cal neb gwell i gymryd o drosodd i gario fo mlaen – dau o hogia ifanc sydd isho cario’r traddodiad ymlaen ag agor y caffi yn ôl, felly mae o wedi gweithio allan yn wych i ni,” meddai.
“Da ni’n hapus iawn bod nhw’n cymryd o drosodd. Mae’n mor bwysig i gadw’r busnesau lleol a’r enwau yma i fynd.
“Fedra ni mond diolch o galon i'r holl gwsmeriaid sydd wedi cefnogi ni dros yr holl flynyddoedd. Heb law am y cwsmeriaid i gyd, bysan ddim yma heddiw.
“Pan ddoth [perchnogion newydd] nhw yma gyntaf, efo diddordeb, naethon nhw yrru neges yn gofyn os fydda’n iawn i gadw’r enw, ond mi fysa’n ni’n fwy upset os fysa nhw di newid yr enw, achos mae’n bwysig.
“Mae pawb yn nabod o fel Gwalia. Mae’n bwysig i’r dre ac i Ben Llŷn i gyd. Mae o’n mor neis bo nhw’n cario’r enw ymlaen.”
‘Dim lot ar ôl’
Dywedodd Ms Pritchard ei fod yn “bwysig” bod busnesau lleol annibynnol yn parhau yn agored yn sgil cystadleuaeth gynyddol gan gadwyni ac archfarchnadoedd poblogaidd.
“Does 'na ddim lot o fecws ar ôl, maen nhw i gyd yn cau i lawr.
“Da ni’n cael lot o bobl ddieithr ac ymwelwyr o Loegr yn dod yma, a does 'na ddim bakeries bach o le maen nhw’n dod, dim ond chains fatha Subway.
“Ac maen nhw’n gwirioni efo llefydd bach fel ‘ma yn deud does 'na’m byd fel ‘ma lle maen nhw’n byw.
“Mae 'na ddynes o ochrau Birmingham, mae ganddi dŷ haf yn rywle ond pan mae hi’n dod yma, mae hi’n mynd a tua 15 torth bara multi-seed efo hi i roi i’w ffrindiau, a rhewi rhai, ac yn deud bo hi methu cael dim byd fel ‘na yn lle mae hi’n byw, so mae o’n neis.
“Mae’n bwysig cadw llefydd bach fel hyn i fynd dydi.”
‘Traddodiad’
Mewn datganiad, fe wnaeth y perchnogion newydd gadarnhau eu bod yn bwriadu ail agor y caffi, sydd wedi bod ar gau ers y pandemig Covid-19 yn 2020.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn uchelgais gennym i ehangu’r busnes a dod o hyd i rywle lle gallwn gynnig yr hyn rydym yn ei wneud i ardal a chymuned wahanol.
“Nid yw dod o hyd i'r lle a'r ardal iawn wedi bod yn hawdd... nes i ni gwrdd â Sifian ac Eric o Fecws Gwalia Pwllheli.
“Dymunwn barhau â'r traddodiad sydd wedi cadarnhau perthynas leol a thwristiaeth boblogaidd trwy ychwanegu'r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda yma.
“Rydym yn awyddus i ailgynnau Caffi poblogaidd Gwalia yn y dyfodol agos iawn yn y gobaith y bydd yn dychwelyd i ganol y stryd fawr fel yr oedd unwaith.
“Y becws a’r siop byddwn yn rhoi gweddnewidiad bach haeddiannol iddo ac fel arwydd o barch i Sifian ac Eric rydym wedi gofyn am gadw enw Gwalia.”