Ceisiadau perchnogion XL Bully i gadw eu cŵn yn dod i ben ddydd Mercher
Mae'r cyfnod i wneud cais am dystysgrif eithrio, er mwyn cael cadw cŵn XL bully wedi dod i ben am 12.00 brynhawn Mercher.
Mae gwaharddiad ar gadw cŵn XL Bully ar fin dod i rym.
O 1 Chwefror, bydd hi'n drosedd i fod yn berchen ar XL Bully yng Nghymru a Lloegr.
Eisoes mae cyfyngiadau wedi eu cyflwyno sy'n nodi bod angen i'r cŵn gael eu cadw ar dennyn gyda rhwymyn dros eu cegau mwn mannau cyhoeddus.
Ac ar 31 Rhagfyr 2023, daeth hi'n anghyfreithlon i fridio, gwerthu neu adael y cŵn ar ôl.
Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif sy'n eu heithrio, mae angen i berchnogion brofi bod eu ci XL Bully wedi ei ysbaddu.
Erbyn ddydd Mercher, gyda chi bach yn iau na blwydd oed, bydd angen iddo gael ei ysbaddu cyn diwedd 2024, a bydd angen cyflwyno tystiolaeth i brofi hynny.
Bydd angen hefyd i berchnogion XL Bully dalu am y cais i'w heithrio, a phrynu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (public liability) ar gyfer y cŵn, gan sicrhau hefyd fod gan yr anifail ficrosglodyn.
Daw'r gwaharddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfres o ymosodiadau gan gŵn XL Bully, yn eu plith y bachgen 10 oed o Gaerffili, Jack Lis, a gafodd ei ladd gan gi XL Bully yn 2021.
Mae mam Jack, Emma Whitfield wedi cwestiynu pam nad yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu ynghynt i wahardd y math hwn o gi.
Ond mae elusen yr RSPCA wedi dweud nad y mesurau diweddaraf hyn yw'r ateb, gan rybuddio na fydd llochesi anifeiliaid a milfeddygon yn medru ymdopi wrth i nifer fawr o berchnogion gefnu o bosib ar eu cŵn.