Dim lle i laesu dwylo wrth warchod lles athrawon medd Prif Arolygydd Estyn
Wrth i arolygydd addysg Cymru, Estyn, gyhoeddi ei adroddiad blynyddol ddydd Mercher, mae ei brif arolygydd wedi dweud nad oes lle i laesu dwylo gyda’r ffordd y mae iechyd meddwl athrawon a phenaethiaid yn cael ei drin oddi mewn i arolygon.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Owen Evans na fyddai e “fyth yn dweud dwi’n hapus” gyda’r modd mae lles ac iechyd meddwl yn cael ei drin yn ysotd y broses arolygu.
Daw ei sylwadau wedi oedi yn arolygon Lloegr, wrth i gynllun hyfforddiant gael ei sefydlu ar gyfer eu harolygwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o gyflwr iechyd meddwl athrawon a phenaethiaid ysgolion.
Cafodd hynny ei gyflwyno wedi i’r brifathrawes o Reading, Ruth Perry ladd ei hun y llynedd.
Yn ôl ei chwaer, digwyddodd hynny wedi “diwrnod gwaethaf ei bywyd” ar ôl i arolygwyr Ofsted ymweld â’i hysgol ym mis Tachwedd.
Mae galwadau yn Lloegr i ddiddymu'r system bresennol gan Ofsted o ddefnyddio un gair i grynhoi adroddiadau ysgol, yn sgil marwolaeth Ms Perry.
Ond mae ysbryd arolygon yn wahanol yng Nghymru, yn ôl Owen Evans.
“Mae ethos ni yn wahanol draw fan hyn, mae ethos y system yn wahanol draw fan hyn.
"O fewn fy nwy mlynedd i ar ôl dod i Estyn, ges i wared ar y summarative judgements bron yn syth.
"Oni ddim yn teimlo bod hynny yn deg. Sut allwn ni grynhoi yr holl eiriau a holl gweithgaredd ysgol mewn i un gair?
"Dyw e ddim yn deg, yn enwedig pan chi'n gadael pobl am ryw chwe neu wyth mlynedd gyda'r un gair yna.
"Mae hynny wedi bod yn gam bwysig oherwydd nawr mae llai o dadl ar beth yw'r gradd yna a mae na fwy o drafodaeth am sut allwn ni wella'r ysgol felly mae hwnna di bod yn bositif.
“’Dyn ni wedi defnyddio mwy o bobl o’r sector i fynd allan ar arolygon, ac fel arfer ‘dyn ni’n cydweithio gyda nominee o fewn yr ysgol i ddod yn rhan o’r tîm.
Dywedodd bod arolygwyr Estyn hefyd yn sefydlu perthynas “glos iawn” gyda’r ysgolion y maen nhw’n ymweld â nhw.
'Syfrdanol'
Wrth drafod adroddiad diweddaraf Estyn, ychwanegodd Mr Evans bod ysgolion yn parhau i ddioddef effeithiau’r pandemig.
“Fi’n amau byddwn ni’n ffeindio mas effeithiau’r pandemig am flynyddoedd i ddod,” meddai.
Dywedodd bod ymddygiad disgyblion yn yr ysgol bellach “wedi newid” ers dychwelyd i’r ysgol ar ôl y cyfnod clo, a bod “absenoldeb” yn parhau i fod yn her.
Dywedodd hefyd bod y pandemig wedi cael effaith “syfrdanol” ar safon yr iaith Gymraeg yn yr ysgol, ond bod pynciau eraill fel llythrennedd a rhifedd hefyd wedi dioddef.
Ond er mwyn mynd i’r afael â’r materion hynny, meddai Mr Evans, mae angen rhoi ysgolion ar ben ffordd.
“‘Dyw e ddim yn bosib i bob ysgol fod yn dda am bopeth.
“Beth sydd rhaid i ni ‘neud yw rhoi esiamplau ble mae ysgolion tebyg wedi ymfalchïo a dathlu lle maen nhw wedi newid rhywbeth, megis yr iaith Gymraeg ar y ffin rhyngom ni a Lloegr, neu rifedd neu bresenoldeb neu beth bynnag.
“'Dyn ni angen sicrhau bod yr esiamplau sydd efo ni yn ddigon tebyg i beth mae ysgolion yn chwilio amdan,” meddai.