Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi digwyddiad 'hynod o brin' mewn pentref yng Ngwynedd

30/01/2024
Heddlu Bontnewydd
Mae'r heddlu wedi rhyddhau datganiad i dawelu pryderon pobl mewn pentref ger Caernarfon wedi digwyddiad yno ddydd Sul. 
 
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Pwllheli, Bontnewydd, yn dilyn adroddiadau bod dyn yn bygwth pobl yn yr ardal.
 
Cafodd dyn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf bygythiol yn ei feddiant ag am achosi affräe.
 
Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’r heddlu'n parhau.
 
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y digwyddiad hwn a arweiniodd at arestio prydlon.
 
“Mae’r digwyddiad hwn, yn ddealladwy, wedi achosi pryderon ymhlith trigolion, a dymunaf eu sicrhau bod digwyddiadau o’r math hwn yn hynod o brin yn ein hardal leol.
 
“Bydd swyddogion cymunedol lleol yn parhau i batrolio Bontnewydd i gynnig sicrwydd, a byddwn yn annog unrhyw un i siarad â nhw os gwelwch chi nhw.
 
“Mae Rhingyll ein Tîm Plismona Bro yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys y cynghorydd lleol a Swyddog Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i nodi a gweithredu ar unrhyw bryderon cymunedol pellach.”
 
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a all fod o gymorth i gysylltu â'r heddlu dros y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q013349.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.