Cynnal twrnamaint wreslo braich Prydain yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed
Cynnal twrnamaint wreslo braich Prydain yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed
Mae'n gamp wyddai fawr neb mae'n siŵr bod hi mor gystadleuol. Ond i fentro a herio, mae'n rhaid ymarfer.
Mor fast a ti'n medru cael dy ysgwydd rownd. Ready, go! Tu hwnt i'r gerddoriaeth a sgrechfeydd y dorf dyma lle mae'r gwaith caled yn digwydd.
Bob wythnos mae'r criw yma o Nefyn yn dod at ei gilydd i ymarfer a Reuben Hughes, un o selogion y gamp sy'n hyfforddi.
Dreifio dy ysgwydd ymlaen, penelin ymlaen ysgwydd rownd a troi dy hips. Hitia di fi efo honna. Cofia gadw'r connection yn fan'na.
Mewn sied fach yng nghanol Nefyn mae'r cyfan yn digwydd a rhyw bump yn dod at ei gilydd bob nos Fercher.
Mae o'n dod yn fwy poblogaidd yn sydyn y blynyddoedd diwetha. 'Swn i'n meddwl ers Covid ym Mhrydain mae o 'di mwy na dyblu yn braf o ran poblogrwydd.
Pan ti'n mynd rownd i gystadlu wedyn mae'r brawdgarwch yma maen nhw'n dod fatha tîm mawr pan mae pawb yn dod at ei gilydd. Mae 'na beint i gael ar ôl cystadlu bob tro. Dyna dw i'n licio amdano fo.
O grefu am gystadleuwyr cyn y pandemig mae'r gamp i weld yn ffynnu. I'r mwyafrif nôl yn Nefyn mi fydd y gystadleuaeth gyntaf dros y penwythnos.
Mae 'na griw'n dod i fyny rwan. Mae rhai yn ardal Manceinion, mae 'na dair ohonyn nhw'n dda. Mae 'na un lawr yn Oxford yn dod drwodd rwan. Mwy o sylw iddo fo i'r ochr merched sydd isio. Dach chi'n mynd i guro? Na'dw. Mae isio bach mwy o ffydd na hynny. Mae Carol yn mynd i. Mae o'n very technical.
Wnes i rioed feddwl bon ni'n iwsho'r corff i gyd. 'Sach di'n meddwl mai dim ond y fraich oedd o ond mae'r coesau'n mynd i un ochr. Mae 'na lot o techniques iddo fo. Pan mae rhywbeth newydd yn dod a pobl heb arfer neud o dydy pobl ddim yn keen ar wneud.
Peth da cefnogi rhywbeth yn wahanol. Ond gobeithio mae'r criw y bydd y nerfau yn diflannu a hwythau ar dir cartref. Am y tro cyntaf erioed mi fydd y bencampwriaeth yn dod i ogledd Cymru.
Gyda disgwyl o leiaf 150 lawr y lon ym mhentre Edern dros y penwythnos. Felly mae'n edrych yn weddol syml. Reuben, dangos pa dechneg sydd ei angen? Wel i ddechra, ti angen gwybod dau beth cyn cychwyn i fod yn saff.
Wedi amser hir yn esbonio'r rheolau i rywun ddigon gwan ei olwg fel fi wnes i benderfynu gwell peidio a herio Reuben tro 'ma.
Dw i'm yn mynd i fentro a trio cystadlu yn d'erbyn di. Gan adael y rhai proffesiynol i ymarfer mi fydd y criw yn mentro lawr y lon dros y penwythnos a gyda nifer yn cystadlu am y tro cyntaf mae 'na obaith y bydd dod a'r gamp i Ben Llyn yn ysgogi ambell un arall i fentro.