Newyddion S4C

Ymosodiadau Nottingham: Gorchymyn adolygiad annibynnol i Wasanaeth Erlyn y Goron

30/01/2024
Llofruddiaethau Nottingham

Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi gorchymyn adolygiad annibynnol i'r modd y deliodd Gwasanaeth Erlyn y Goron â'r ymosodiadau yn Nottingham a laddodd dri o bobl y llynedd. 

Bu farw Grace Kumar a Barnaby Webber, y ddau yn 19 oed, yn ystod ymosodiad ar Ffordd Ilkeston yn Nottingham ar 13 Mehefin.

Cafodd corff Ian Coates, 65, ei ddarganfod ar Ffordd Magdala yn y ddinas yn ddiweddarach.

Cafodd y tri eu lladd gan Valdo Calocane a gafodd ei fagu yn Sir Benfro. 

Wrth ei ddedfrydu wythnos diwethaf, cafodd ei anfon i ysbyty diogel am oes, wedi iddo bledio yn euog i ddynladdiad pan nad oedd yn ei iawn bwyll. 

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi gan Victoria Prentis ddydd Mawrth, ac fe fydd yn edrych ar benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i dderbyn ple euog Calocane i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll. 

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried a wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ymgynghori yn ddigonol â theuluoedd y dioddefwyr. 

Mae'r ddedfryd wedi siomi teuluoedd y tri a fu farw, a oedd yn dymuno achos llofruddiaeth yn hytrach na dynladdiad.

Disgrifiodd teulu Barnaby Webber y gorchymyn ysbyty fel "sarhad enfawr" gan alw am ymchwiliad cyhoeddus i'r achos. 

Dywedodd Ms Prentis ei bod wedi gorchymyn adolygiad brys o Wasanaeth Erlyn y Goron "fel y gallwn ymchwilio yn iawn i'r pryderon a gafodd eu codi gan y teuluoedd."

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud bod ymchwiliadau annibynnol wedi cael eu sefydlu i ystyried  rôl sefydliadau yn Nottingham, a chyfleoedd honedig i atal Calocane cyn iddo drywanu tri o bobl i farwolaeth. 

Ychwanegodd y gallai ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal o hyd, ond ar yr amod y byddai hyn yn briodol ar ôl i'r ymchwiliadau ddod i ben.

Daeth i'r amlwg fod yr heddlu wedi methu ag arestio Calocane am ymosodiad honedig ar ddau o bobl wythnosau yn unig cyn y trywanu. 

Mae adolygiad wedi cael ei orchymyn hefyd i'r ymddiriedolaeth iechyd meddwl oedd yn ei drin cyn y llofruddiaethau. 

Ychwanegodd Ms Prentis: "Mae marwolaethau ofnadwy Barnaby Webber, Grace O’Malley-Kumar ac Ian Coates wedi dychryn y wlad. 

"Er na fydd unrhyw beth yn dod â'u hanwyliad yn ôl, mae'r teuluoedd yn ddealladwy eisiau deall beth ddigwyddodd yn yr achos. 

"Dyna pam yr wyf wedi gofyn i'r arolygiaeth gynnal adolygiad trylwyr a phrydlon o weithredoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron fel y gallwn ni ymchwilio yn iawn i'r pryderon a gafodd eu codi gan y teuluoedd yn yr achos torcalonnus yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.