Wyddoch chi am ddaeargryn mawr Caernarfon yn 1852?
“Yr oedd y grynfa mor echrydus, nes oedd mynyddoedd cribog Arfon yn ymglociau fel pe buasai eu hanferth grombiloedd oll yn weigion.”
Dyna adroddiad gohebydd papur newydd Seren Cymru ym mis Tachwedd 1852.
Wyddoch chi fod un o’r daeargrynfeydd mwyaf ar gofnod yn y Deyrnas Unedig wedi digwydd yn ardal Caernarfon?
Ar y 9fed o Dachwedd 1852, tua 04.25 yn oriau mân y bore, fe gafodd y dref a’r ardal o’i hamgylch ei tharo gan ddaeargryn 5.3 ar y raddfa Richter a ysgwydodd nifer o'r trigolion o'u gwlau.
Dyma’r pumed daeargryn mwyaf wedi ei fesur ar y raddfa Richter ar gofnod yn hanes y Deyrnas Unedig.
Cafodd ei deimlo mor bell i ffwrdd a Dulyn yn Iwerddon, Caerliwelydd (Carlisle) yng ngogledd Lloegr, a Llundain yn y de-ddwyrain.
Mae’r Arolwg Daearegol Prydeinig yn nodi bod rywfaint o ddryswch i ddechrau am ganolbwynt y daeargryn, gyda’r gred ei fod rywle yng nghanol Môr Iwerddon, neu hyd yn oed yn eithaf agos i Ddulyn.
“Mae'n amlwg, serch hynny, mai ym Mae Caernarfon yr oedd yr uwchganolbwynt mewn gwirionedd,” medden nhw.
Mae’r ofn mawr a achoswyd gan y daeargryn ar y pryd wedi ei gofnodi ym mhapurau newydd y cyfnod.
Ond mewn oes pan oedd trenau stêm yn parhau yn ddieithr i rai ardaloedd, digon araf oedd y newyddion yn lledu o amgylch Cymru.
Nid nes 15 Tachwedd y cyrhaeddodd dudalennau Seren Cymru air o Gaernarfon i ddweud eu bod nhw wedi clywed “sŵn dwfn, fel tyrfeu pell, yr hwn a barhaodd tua hanner mynyd”.
“Yna canlynodd y cryniad, yr hwn a ysgwyddodd y tai, y gwelyau a’r dodrefn. Rhai personau a dybient fod darnau o’r tai wedi syrthio,” meddai’r gohebydd.
Dywed gohebydd o Fangor ei fod wedi achosi “y dychryn mwyaf ymysg y trigolion yn gyffredinol”.
Roedd dyn a oedd yn sefyll ar Bont Britannia “yn meddwl fod y Bont honno yn cael ei thaflu oddiar ei sylfaeni”.
Yng Nghaergybi disgrifiwyd y llongau yn ysgwyd yn y porthladd ac yn taro yn erbyn gwely’r môr.
‘Erfyn’
Mae hanes difyrrach fyth gan ohebydd o Fethesda a ddywedodd bod un dyn oedd yn meddwl bod ysbryd cyn ŵr ei wraig wedi torri i mewn i’w dy i ddial arno.
Dywedodd ei fod symud llun o’r cyn ŵr allan o’r tŷ am “nad oedd yn hollol foddlawn iddo fod yno”.
Pan darodd y daeargryn dywedodd y wraig: “Dyna fy ngŵr wedi dyfod yn ôl i chwilio am ei bictiwr.”
“Felly y bu,” meddai’r gohebydd, “dyma'r creadur truan yn codi yn ei ddychryn, ac yn rhedeg at dŷ ei gymydog, ac wedi curo wrth y drws, yn erfyn arnynt i estyn y pictiwr iddo, o herwydd fod gŵr cyntaf ei wraig wedi dyfod yno, a'i fod yn cadw trwst ofnadwy yn y tŷ, ac yn tori yr holl lestri.”
‘Y mwyaf’
Tu hwnt i'r braw cychwynnol ni fu llawer o son am y daeargryn wedi hynny – yn wir cafodd y newyddion ei fwrw oddi ar dudalennau blaen hyd yn oed bapurau Cymraeg gogledd Cymru gan ddigwyddiadau’r dyddiau nesaf.
Nododd Yr Amserau, un o brif bapurau newydd Cymraeg gogledd Cymru, y “daeargryn alarmus” a oedd wedi achosi “mawr ddychryn” ar ei dudalen flaen ar 10 Tachwedd gan addo rhagor o fanylion yn y dyfodol.
Ond erbyn y rhifynnau nesaf roedd y papur newydd yn llawn hanesion eraill, gan gynnwys angladd Dug Wellington, arwr Waterloo, ar 18 Tachwedd.
Efallai fod hynny oherwydd, trwy lwc, ni achosodd y ddaeargryn ddifrod mawr i dref Caernarfon a hynny yn nhyb Arolwg Daearegol Prydeinig oherwydd bod y daeargryn yn rhy isel o dan y ddaear.
Ac nid peth anghyffredin mo daeargryn yn yr ardal chwaith – gyda dau ddaeargryn arall yn yr ardal ymysg y mwyaf ar gofnod yn y DU yn 1940 ac 1984 a nifer o rai llai.
Yn wir roedd y ddaeargryn ar Benrhyn Llŷn ar 19 Gorffennaf 1984 ychydig yn fwy na’r un yn 1852 – sef 5.4 ar y raddfa Richter.
Dywed yr arolwg am ddaeargryn 1984: “O'r daeargrynfeydd hynny ym Mhrydain sydd ag uwchganolbwyntiau ar y tir, mae'r digwyddiad hwn yn un o'r rhai, os nad y mwyaf, y gellir pennu neu amcangyfrif maint eu cryfder.
“Yn ffodus digwyddodd mewn ardal wledig anghysbell ac roedd y ffocws yn gymharol ddwfn (20 km); felly ni fu fawr o ddifrod.”
Llun: Castell Caernarfon yn yr 19eg ganrif gan William Callow