Syndod Cymro o ddeall ei fod wedi gwerthu ei dŷ i ddyn ar restr yr FBI
Syndod Cymro o ddeall ei fod wedi gwerthu ei dŷ i ddyn ar restr yr FBI
Mae dyn lleol o ardal Llanrwst yn Sir Conwy wedi siarad am ei syndod wedi iddo ddarganfod ei fod wedi gwerthu ei dŷ i ddyn oedd ar restr uchaf yr FBI.
Ddydd Mawrth, daeth i'r amlwg fod dyn o’r Unol Daleithiau wedi cael ei arestio yn Sir Conwy ar amheuaeth o derfysgaeth yn dilyn digwyddiad yn nhalaith California dros 20 mlynedd yn ôl.
Roedd Daniel Andreas San Diego, 46, ar restr yr FBI o droseddwyr mwyaf difrifol America, ac fe gafodd ei arestio ym Maenan ger Llanrwst ddydd Llun.
Mae’r FBI wedi bod yn chwilio am Mr San Diego am ddegawdau yn dilyn dau achos o fomio yn San Fransisco yn 2003.
Y llynedd, fe werthodd Aled a'i bartner ei tŷ ar gyrion Llanrwst i Mr San Diego.
Wrth siarad gyda'r BBC fore dydd Iau, dywedodd Mr Evans fod y ddau ohonynt wedi penderfynu gwerthu eu cartref: "Nathon ni benderfynu rhoi y tŷ ar y farchnad, nathon ni symud o na blwyddyn i mis Awst so oedd y tŷ ar y farchnad bedwar, pum mis cyn hynny.
"Aeth y tŷ ar y farchnad ar y dydd Mercher, ddoth 'na 11 o gyplau ac oedolion o gwmpas y lle ar y dydd Sadwrn. 'Dani' oedd ei enw fo felly ddaru o roi ei enw i ni ag oeddan ni'n sgwrsio efo fo am tua pum munud ag oedd o wedi syfrdanu efo'r olygfa o'r lle...a dyna ddaru werthu'r lle idda fo.
"Oedd o'n ddyn dymunol, hoffus, ddigon distaw, doedd 'na ddim byd arbennig amdana fo. O'n i'n meddwl ma Canadian oedd o a ddim Americanwr. Oedd o'n siarad yn ddistaw, oedd o'n licio beic mynydda a'r goedwig y tu ôl i'r tŷ, oedd o'n edrych ymlaen at fynd ar ei feic drwy'r coed."
'Cadw'i ben i lawr'
Ychwanegodd Mr Evans fod Mr San Diego wedi dweud mai gwaith oedd y rheswm iddo symud i Gymru.
"Gwaith medda fo, gweithio ym myd IT ag oedd o'n deud bod o'n byw yn ochre Wyddgrug a bod genna fo dŷ yn Wyddgrug a doedd o'm angen gwerthu hwnnw cyn prynu lle ni so oedd o'n swnio bod pres ddim yn broblem."
Yn ôl Mr Evans, nid oedd y tŷ yn un a fyddai'n plesio'r mwyafrif, ac roedd y ffaith bod angen treulio amser hir yn edrych ar ôl y lle yn ddigon o reswm iddynt benderfynu gwerthu.
"Ond fel ma' petha 'di troi allan, oedd o'n le perffaith idda fo (Mr San Diego) brynu a cadw'i ben i lawr," meddai.
"Dwi'n gweld fy nghyn-gymdogion yn reit aml, ag oeddan nhw yn deud bo' nhw byth yn ei weld o."
"Fysa chi ddim yn gallu ysgrifennu y stori i ddeud y gwir."
'Fel ffilm Hollywood'
Mae'r newyddion wedi rhoi "braw" i bobl yng nghymunedau Maenan a Llanrwst, yn ôl y cynghorydd sir, Nia Owen.
“Mae’n atgoffa fi o ryw ffilm Hollywood," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi ‘di siarad efo ambell un yn Llanrwst bore ma ac mae pawb di weld ei lun o, a neb yn nabod o, heb law am berchennog un caffi.
“Mae pawb wedi cael andros o fraw, bod 'na ddyn ar restr yr FBI yn America, a bod o di bod yn cuddiad ymysg ni ers blwyddyn i mis Awst, o be dwi wedi glywed.
“Roed na lot o bapurau Llundeinig di bod o gwmpas Llanrwst ‘ma ddoe, pobol o’r Telegraph, Guardian – pawb isho darn o’r stori.
"Dim yn aml iawn ma rwbath fel hyn yn digwydd yn Nyffryn Conwy, yn ei hardal fach ni, dim o gwbwl.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd John Elwyn Owen, o Faenan, nad oedd erioed wedi dod ar draws Mr San Diego.
Ond roedd Mr Owen, sydd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanddoged a Maenan, yn dweud ei fod yn falch bod y gŵr o America bellach wedi cael ei arestio.
“Mae’n lwcus iawn o hynny, bod nhw wedi cael gafael arno fo, a bod o heb fynd yn rhydd ganddyn nhw ar ôl dallt bod nhw ar ei ôl o,” meddai.
“Mae Maenan yn le distaw yn y cefn gwlad, efo ryw ffyrdd bach cul a dim llawer o neb yn pasio.
“Mae o’n dychryn rhywun bod 'na ddyn fel ‘na di bod yn byw yn ein plith ni ers ‘chydig o amser rŵan, heb i neb wybod dim byd.
“Dw i methu coelio bod ffasiwn beth di digwydd mor agos i ni.”