Newyddion S4C

‘O leiaf 10 mlynedd’ cyn y bydd ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru

28/11/2024

‘O leiaf 10 mlynedd’ cyn y bydd ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi awgrymu y bydd hi’n 10 mlynedd neu fwy cyn y bydd ysbyty newydd yn ne-orllewin Cymru.

Roedd y bwrdd iechyd wedi dweud o'r blaen nad oedd disgwyl y byddai'r ysbyty, sy'n rhan o gynllun ailwampio iechyd gwerth £1.3bn, yn cael ei hadeiladu nes o leiaf 2029.

Ond dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Philip Kloer, mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin ddydd Iau y byddai'n cymryd llawer mwy o amser na hynny.

“A bod yn deg i’n staff a’r cyhoedd, mae’r amserlen ydyn ni wedi ei ddisgrifio o amgylch yr ysbyty newydd yn awgrymu eu bod nhw’n disgwyl i’r ysbyty agor erbyn 2029,” meddai.

“Mae'n rhaid i ni dderbyn, pan ydych chi dal ar gam llunio'r achos busnes, bod ysbyty newydd yn mynd i fod o leiaf 10 mlynedd, ac efallai yn hirach, cyn cyrraedd.

“Ac felly mae hynny'n golygu na all ein cynllunio fod yn seiliedig ar fod ysbyty newydd yno.”

Bydd yr ysbyty naill ai’n cael ei adeiladu yn Sanclêr neu yn Hendy-gwyn ar Daf, ond does dim penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto ar y lleoliad.

Fe wnaeth y bwrdd iechyd gyflwyno cam cyntaf yr achos busnes i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2022.

Mae'r bwrdd iechyd bellach yn drafftio achos strategol, sy'n cynnwys yr ysbyty newydd a throsi ysbytai Glangwili a Llwynhelyg i fod yn gyfleusterau cymunedol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: "Mae'r amserlen fanwl yn ansicr ar hyn o bryd, ond mae’n hanfodol dilyn canllawiau achos busnes Trysorlys Ei Mawrhydi ar brosiectau seilwaith mawr fel hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.