Newyddion S4C

Andrew RT Davies yn wynebu pleidlais ar ddyfodol ei arweinyddiaeth

ITV Cymru
Andrew RT Davies

Mae Andrew RT Davies yn wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth.

Daw wedi cyfarfod i drafod ei ddyfodol yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig brynhawn ddydd Iau.

Mae Andrew RT Davies wedi galw am i bleidlais ar ei arweinyddiaeth gael ei chynnal gan Geidwadwyr y Senedd yn eu cyfarfod grŵp ddydd Mawrth nesaf.

Mae Mr Davies wedi bod yn y swydd ers 2021 - ei ail gyfnod fel arweinydd y blaid yn y Senedd wedi iddo hefyd fod yn arweinydd rhwng 2011 a 2018. Cafodd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2007.

Mae rhai o'i sylwadau yn y flwyddyn ddiwethaf wedi cael eu beirniadu gan rai o'i gyd-aelodau yn y blaid.

Ym mis Gorffennaf, honnodd fod plant ysgol ym Mro Morgannwg yn "cael eu gorfodi" i fwyta cig Halal - honiad gafodd ei wrthod gan yr ysgol. Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan Gyngor Mwslemaidd Cymru, a gyhuddodd Mr Davies o hiliaeth.

Yn ogystal mynegodd nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg bryder am ei eiriau, gan gynnwys ei gyd-aelod Mwslemaidd, Natasha Asghar.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rhoddodd wahoddiad i ymwelwyr â Sioe Sirol Bro Morgannwg "bleidleisio"  mewn blwch a ddylid diddymu'r Senedd neu beidio.

Derbyniodd gerydd swyddogol ym mis Hydref ar ôl i Bwyllgor Safonau’r Senedd ddweud ei fod wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy alw terfyn cyflymder 20mya Cymru yn bolisi “blanket”.

Mae'r tri arolwg barn ddiweddaraf ar etholiadau’r Senedd wedi awgrymu fod y Ceidwadwyr yn y 4ydd safle, neu’n gydradd gyda Reform yn 3ydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.