Newyddion S4C

Y DU yn 'ystyried cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth'

30/01/2024
David Cameron

Mae'r DU yn ystyried cydnabod Palesteina fel tiriogaeth er mwyn ceisio dod â'r gwrthdaro rhwng Hamas ac Israel i ben yn ôl yr ysgrifennydd tramor David Cameron.

Dywedodd Mr Cameron fod angen cynnig "gorwelion gwleidyddol i bobl Palesteina" mewn ymdrech i roi diwedd ar y rhyfel yno.

Ychwanegodd y byddai'r DU yn gwneud "popeth o fewn ei gallu" i atal y gwrthdaro rhag lledaenu.

Yn ystod ymweliad â Jerwsalem yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Mr Cameron herio Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu dros ei ddiffyg cefnogaeth at ddatrysiad dwy diriogaeth i sicrhau heddwch ar gyfer pobl Israel a Phalesteina. 

Mae Mr Netanyahu wedi gwrthod ymdrechion gan gynghreiriaid, gan gynnwys UDA, i ennill ei gefnogaeth ar gyfer y cynnig, gan ddweud y byddai'n peryglu "tiriogaeth Israel".

Ond fe nododd yr Arglwydd Cameron y gallai'r DU a chynghreiriaid eraill ychwanegu at y pwysau sydd arno drwy gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn y Cenhedloedd Unedig.

"Dylen ni fod yn dechrau amlinellu sut y byddai gwladwriaeth Balesteinaidd yn edrych, a sut fyddai'n gweithio," meddai.

“Wrth i hynny ddigwydd, byddwn ni, gyda chynghreiriaid, yn edrych ar y mater o gydnabod gwladwriaeth Palesteina, gan gynnwys yn y Cenhedloedd Unedig."

Fe fydd Mr Cameron yn ymweld â'r Dwyrain Canol am y pedwerydd gwaith yr wythnos hon ers cael ei benodi yn Ysgrifennydd Tramor ym mis Tachwedd.

Llun: James Manning/PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.