Newyddion S4C

Gwleidydd ar £120,000 yn rhoi'r gorau i'w swydd yn weinidog am nad yw'n 'gallu fforddio'r morgais'

30/01/2024
George Freeman

Mae gwleidydd Ceidwadol wedi dweud ei fod wedi rhoi gorau i'w swydd £120,000 fel gweinidog yn Llywodraeth y DU am nad oedd yn gallu fforddio talu ei forgais. 

Ymddiswyddodd George Freeman fel ysgrifennydd gwyddoniaeth ym mis Tachwedd yng nghanol newidiadau cabinet Rishi Sunak. 

Mewn cofnod ar ei flog gofynnodd Mr Freeman: "Pam wnes i gamu lawr?

"Oherwydd bod fy morgais yn cynyddu'r mis hwn o £800 i £2,000, a doeddwn i ddim yn gallu fforddio i'w dalu ar gyflog gweinidogol."

Mae Mr Freeman wedi bod yn AS ar gyfer Canolbarth Norfolk ers 2010, ac roedd ar gyflog o £118,300 tra'n weinidog. 

Mae gadael ei swydd yn weinidog yn golygu y bydd Mr Freeman yn cael gweithio swyddi eraill, ar ben ei gyflog £86,584.

Mae wedi gwasanaethu mewn sawl swydd weinidogol mewn llywodraethau Ceidwadol.

Derbyniodd £7,920 wedi iddo adael llywodraeth Boris Johnson ym mis Gorffennaf 2022, cyn dychwelyd i’w rôl fel ysgrifennydd gwyddoniaeth o dan Mr Sunak 16 wythnos yn ddiweddarach.

Mae gweinidogion o dan 65 yn gymwys i dderbyn taliad colli swydd sy'n cyfateb i chwarter eu cyflog gweinidogol os byddant yn gadael eu rôl heb gael eu penodi i un arall o fewn tair wythnos.

'Dim cynlluniau'

Ychwanegodd Mr Freeman bod "ysgariad poenus iawn" a rhieni "sydd yn heneiddio" hefyd wedi cael effaith ar ei sefyllfa ariannol. 

"Mae'n amser i flaenoriaethu'r pethau dwi'n teimlo fy mod i wedi gorfod eu hesgeuluso," meddai.

"Fel dywedodd fy (ail) wraig wrtha i'r diwrnod o'r blaen, dydw i ddim yn 26, 36, na 46. Dwi'n 56 erbyn hyn, bron yn 57. Tair stôn dros fy mhwysau, 30 o flynyddoedd yn dlotach."

Dywedodd y byddai'n sefyll i gael ei ail-ethol yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ond fe ychwanegodd: "Mae'n edrych yn debygol y byddwn ni'n gweld llywodraeth Lafur."

Er gwaethaf pryderon Mr Freeman, dywedodd Downing Street nad oes "unrhyw gynlluniau i newid ein hagwedd at y cyflog gweinidogol".

"Mae ond yn iawn ein bod yn sicrhau bod y cyflog gweinidogol yn adlewyrchu'r sefyllfa gyllidol ehangach," meddai'r llefarydd swyddogol ar ran y Prif Weinidog. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.