Cwmni Elon Musk yn gosod microsglodyn yn ymennydd person am y tro cyntaf
Mae Elon Musk wedi cyhoeddi bod ei gwmni Neuralink wedi gosod microsglodyn (microchip) yn ymennydd person am y tro cyntaf.
Dywedodd y biliwnydd y bydd y ddyfais - o'r enw 'Telepathy' - yn caniatáu i bobol ddefnyddio dyfeisiau fel ffonau symudol neu gyfrifiaduron drwy feddwl yn unig.
Byddai hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr ag anableddau fel Stephen Hawking "gyfathrebu'n gyflymach nag ocsiwnïer".
Dywed y cwmni mai eu nod cychwynnol yw galluogi pobl i reoli llygoden neu fysellfwrdd cyfrifiadur gan ddefnyddio eu meddyliau yn unig.
Inline Tweet: https://twitter.com/elonmusk/status/1752098683024220632?s=20
Fe wnaeth Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau'r Unol Daleithiau roi caniatâd i'r cwmni arbrofi ar bobl y llynedd.
Ond mae’r cwmni hefyd wedi ei feirniadu gan wleidyddion yn yr Unol Daleithiau am arbrofi ar fwncïod.
Ysgrifennodd Musk mewn neges cyfryngau cymdeithasol ym mis Medi “nad oes unrhyw fwnci wedi marw o ganlyniad i fewnblaniad Neuralink”.
Ychwanegodd fod y cwmni wedi dewis mwncïod “oedd ar fin marw” fel nad oedd risg i rai iach.