Newyddion S4C

Ofnau y gallai cynllun amaeth newydd fod yn 'ddiwedd ar y Gymraeg a miloedd o swyddi'

29/01/2024

Ofnau y gallai cynllun amaeth newydd fod yn 'ddiwedd ar y Gymraeg a miloedd o swyddi'

Rhoi'r byd yn ei le. Trafod pryderon. Fel yr wythfed genhedlaeth ar ei fferm yn Sir Aberteifi mae Melva'n poeni na fydd dyfodol i'w phlant sy'n gobeithio parhau â'r llinach.

Mae'r tri'n gobeithio ffarmo gartre rhyw ddiwrnod. Pa mor hyderus y'ch chi bod modd gwneud hynny?

Dim ar hyn o bryd, mae'n edrych yn weddol dywyll arnon ni. Mae eisiau i'r Llywodraeth ddihuno. Llywodraeth Cymru yn hopeless, so nhw'n neud dim i helpu ni.

Mae'n ymateb i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy'n dod i rym y flwyddyn nesa gan ddisodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad sy'n asesu effeithiau posib y cynllun a'r canlyniadau yn arswydus yn ôl Undeb yr NFU.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai'r Cynllun Cynaliadwy yn arwain at ostyngiad o dros 100,000 o wartheg sy'n cyfateb i ryw 800,000 o ddefaid. Bydd yna ostyngiad hefyd o 11% yn nifer y gweithwyr ffermydd. Rhyw 5,500 yn llai o swyddi.

Maen nhw'n gwybod y pethau yma ers 2018. Dw i'n bryderus braidd bon nhw 'di gadael pethau mor ddiweddar. Maen nhw'n ymgynghori rwan ac yn bwriadu cychwyn yn 2025.

Does 'na'm llawer o amser. Faswn i'n dweud bod 'na ddiffyg dealltwriaeth a chydnabod pwysigrwydd amaeth. Fan'no mae 'nghwyn i yn erbyn y Llywodraeth.

Mae'r Llywodraeth yn dal i ymgynghori ar y cynllun ac yn annog pobl i fynegi barn. Dywedodd llefarydd bod yr asesiad economaidd yma yn ddarn pwysig o waith a helpodd i lywio eu hymgynghoriad er mwyn gallu mynd i'r afael a'r materion yma.

Nid yw'n asesiad meddai o'r ymgynghoriad presennol. Wrth reswm chi moyn sicrhau bod 'na ddyfodol a bod ffarm ar gynnig i'r genhedlaeth nesa.

Y gofyn i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu a choed yw un o agweddau mwyaf dadleuol y Cynllun a theimlad ar lawr gwlad nad yw'r gwleidyddion yn gwrando.

Mae hyn yn anwybyddu consyrn, pryderon a llais unrhyw un sydd ddim o blaid yr agenda goedwigo 'ma. Mae consyrn, pryderon a rhesymeg pob sector wedi'u hanwybyddu. Mae'n rhagrith hollol.

Teitl y ddogfen yw cadw ffermwyr i ffermio. Mae'r cynllun yn gwneud y gwrthwyneb. Gwarchod yr amgylchedd wrth greu diwydiant amaeth cynaliadwy yw bwriad y cynllun.

Dyw'r diwydiant ddim yn hapus - beth felly am yr amgylcheddwyr?

Rhaid cofio bon ni angen pobl yng nghefn gwlad ond gallwn ni ddim cario 'mlaen fel ydan ni. 'Dan ni'n gweld llifogydd, argyfwng byd natur, newid hinsawdd. Mae angen gwobrwyo yr ychydig ffermwyr sy'n neud stwff i helpu bywyd gwyllt ac angen eu gwobrwyo nhw'n iawn.

Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn llawer rhy wan. Mae angen ei gryfhau a'i fonitro a gwneud yn siŵr bod y canllawiau sydd i lawr yn gweithio.

Dyma gynllun hir ddisgwyliedig fydd yn ei le erbyn 2025.

Ni'n mynd i golli'r taliad.

Ond gydag ychydig o gefnogaeth gan y naill ochr na'r llall mae'r cloc yn tician.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.