Carcharu dyn o'r Rhondda am werthu Valium i blant
Mae dyn o Rondda Cynon Taf oedd yn gwerthu Valium i blant ysgol wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a dau fis.
Roedd rhai o’r plant wedi gorfod mynd i’r ysbyty o ganlyniad i gymryd y Valium.
Gwerthodd Gavin Lee Jones, 39 oed, o Glynrhedynog y Valium i blant rhwng 12 a 14 oed.
Cafodd ei ddedfrydu i 58 wythnos am ymwneud â chyflenwi Valium a 58 wythnos o garchar am feddu ar gyffuriau Dosbarth C gyda’r bwriad o’u cyflenwi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones: “Ym mis Awst y llynedd cawsom adroddiadau bod dau blentyn wedi llyncu tabledi glas a bu’n rhaid mynd â nhw i’r ysbyty oherwydd eu bod yn simsan ar eu traed ac yn ddryslyd.
“Trwy lwc yn unig ni ddioddefodd y plant unrhyw niwed difrifol.
"Rwy'n gobeithio bod y ddedfryd hon yn ei gwneud yn glir na fydd delio cyffuriau yn cael ei oddef ac y byddwn yn cymryd pob cam o fewn y grymoedd sydd ar gael i ni i ddod o hyd i'r bobl sy'n gyfrifol am werthu cyffuriau a dod â nhw o flaen eu gwell."
Gall unrhyw un sy’n poeni bod eu plant yn defnyddio neu’n ystyried defnyddio cyffuriau gysylltu â’r gwasanaeth cynghori cyffuriau FRANK drwy ymweld â https://www.talktofrank.com/.