Newyddion S4C

Y Brenin a Thywysoges Cymru'n gadael yr ysbyty ar ôl triniaeth

Tywysoges Cymru

Mae Tywysoges Cymru wedi dychwelyd adref i Windsor ar ôl derbyn llawdriniaeth ar yr abdomen, ac mae’n “gwneud cynnydd da”, meddai Palas Kensington.

Dywedodd llefarydd ar ran y Palas mewn datganiad ddydd Llun: “Mae Tywysoges Cymru wedi dychwelyd adref i Windsor i barhau â’i gwellhad ar ôl llawdriniaeth. 

"Mae hi'n gwneud cynnydd da.

“Dymuna’r tywysog a’r dywysoges ddiolch yn fawr iawn i’r tîm cyfan yn The London Clinic, yn enwedig y staff nyrsio ymroddedig, am y gofal y maent wedi’i ddarparu.

“Mae'r teulu'n parhau i fod yn ddiolchgar am y dymuniadau da maen nhw wedi’u derbyn o bedwar ban byd.”

'Adfer'

Cyhoeddwyd yn ddiweddarach bod y Brenin Charles III hefyd wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael triniaeth am brostad chwyddedig.

Dywedodd Palas Buckingham mewn datganiad: “Y prynhawn yma cafodd y Brenin adael oyr ysbyty yn dilyn triniaeth ac mae wedi aildrefnu ymrwymiadau cyhoeddus i ganiatáu cyfnod o adferiad preifat.

“Hoffai Ei Fawrhydi ddiolch i’r tîm meddygol a phawb a fu’n ymwneud â chefnogi ei ymweliad â’r ysbyty, ac mae’n ddiolchgar am yr holl negeseuon caredig y mae wedi’u derbyn yn ystod y dyddiau diwethaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.