Newyddion S4C

The Crown: Propiau o arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ar werth

29/01/2024
Tywysog Cymru

Os ydych chi erioed wedi gobeithio ail greu arwisgo Tywysog Cymru yn eich ystafell fyw, efallai mai dyma eich cyfle chi - ond gallai gostio degau o filoedd.

Bydd atgynhyrchiadau ac eitemau gwreiddiol o arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn cael eu gwerthu fel rhan o ocsiwn o bropiau a gwisgoedd o gyfres The Crown ddydd Mercher.

Bydd cwmni Bonhams yn gwerthu  dros 450 eitem o’r gyfres Netflix a ddaeth i ben wedi chwe chyfres ym mis Rhagfyr y llynedd.

Roedd y drydedd gyfres a ddarlledwyd yn 2019 yn cynnwys pennod o’r enw ‘Tywysog Cymru’ a oedd yn cynnwys arwisgiad y brenin presennol Charles III yn 1969.

Mae’r ocsiwn yn cynnwys propiau a gwisgoedd sydd wedi eu creu ar gyfer y gyfres gan gynnwys atgynhyrchiad o ddillad y Tywysog Charles yn ystod y seremoni.

Gwisgoedd

Mae atgynhyrchiad o ddillad y Frenhines, y Fam Frenhines, y Dywysoges Margaret a’r Dywysoges Anne o’r seremoni hefyd ar werth, gan gostio hyd at £7,000.

Mae’r arwerthiant hefyd yn cynnwys cadair a gafodd ei defnyddio yn ystod y seremoni go iawn yng Nghastell Caernarfon ac mae disgwyl iddi werthu am £800 - £1,200.

Gwnaed cyfanswm o 4,600 o gadeiriau ar gyfer y seremoni wreiddiol. 

Ar ôl y seremoni, roedd y cadeiriau ar gael i westeion i’w prynu am £12 i helpu i ariannu'r seremoni.

Dywedodd Bonhams: “Er ei bod yn cael ei defnyddio ar set ac fel ysbrydoliaeth ar gyfer fersiwn tebyg a grëwyd gan adrannau Celf ac Adeiladu’r Goron, byddai’r gadair hon wedi’i defnyddio yn ystod seremoni Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1af Gorffennaf 1969.”

Mae modrwy signet aur Tywysog Cymru hefyd ar werth ac mae disgwyl iddi werthu am tua £900.

Y prop mwyaf drud sydd ar werth o’r gyfres yw atgynhyrchiad o goets aur y Teulu Brenhinol a gafodd ei chreu yn 1762 ar gyfer y Brenin Siôr III.

Mae disgwyl iddi werthu am hyd at £50,000.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.