Newyddion S4C

Seren Hollywood yn cael blas ar un o fwytai Caerdydd

29/01/2024
willem dafoe.png

Fe gafodd un o sêr Hollywood flas ar un o fwytai Caerdydd dros y penwythnos.

Fe wnaeth Willem Dafoe ymweld â bwyty Mowgli Street Food yng nghanol y ddinas ar ddwy noson yn olynol tra'n ffilmio ei ffilm ddiweddaraf yng Nghymru.

Mae wedi actio mewn ffilmiau gan gynnwys Platoon, Spider-Man a The English Patient.

Mae Dafoe yng Nghymru yn ffilmio ei brosiect ddiweddaraf The Man in My Basement yn Llandybie yn Sir Gaerfyrddin.

Fe wnaeth y bwyty rannu eu profiad o gyfarfod y seren ar y cyfryngau cymdeithasol, gan rannu llun o'r staff gyda Dafoe. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.